Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^Mmm&L Cyf. III. IONAWR, 18S7. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAID. GA>T Y PARCH. D. CHARLES DAYIES, M.A., BAN'GOR RHIF XXV. " Wedi goleuo llygaid eich meddyliau ; fel y gwypoch beth yw gobaith ei alwedigaeth ef, a ph'eth yw golud gogoniant ei etifeddiaeth ef yn y saint."Eph. i. 18 Dengys y gymhariaeth "goleuo llygaid y galon" fod calon Cristion yn teimlo awdurdod a sylwedd gwirioneddau ysbrydol mor fywiog a nerthol ag y mae enaicl trwy gyfrwng llygaid corff yn gweled gwahanol wrthddrychau natur. Ond wrth ddefnyddio y gymhariaeth rhaid cofio hyn, fod llygad y corff, trwy yr hwn y mae yr enaid yn gweled pethau allanol ar wahan, tualian i'r enaicl ei hun, yn y corff, rhwng yr enaid a'r pethau yr edrychir arnynt; tra nad yw llygad calon yn synwyr ar wahan oddiwrth y galon ei hun, ond y galon ei hun ydyw yn ei gallu i weithredu mewn rhyw ffordd neillduol. Eto fe ddang- osir yn y Beibl fod gan enaid gyfrwng i weled pethau ysbrydol trwyddo, fel y mae ganddo gorff i weled pethau naturiol trwydclo, a'r cyfrwng hwnw yw Crist. Os trwy ei undeb â'r corff y mae enaid yn gweled ac yn teimlo pethau daearol, felly trwy undeb enaid â Christ y mae yn teimlo pethau dwyfol." " Y corff sydd o Grist " mewn ystyr heblaw yr un y defnyddir y gair yn y Llythyr at y Colosiaid. Y mae egwyddorion dwyfol yn cael eu presenoli gerbron calon pechadur mewn person yn yr Iesu; a phan ddygir yr enaid i undeb ffydd a chariad âg ef, y mae ar unwaith yn teimlo eu hawdurdod arno. Ac y mae yr enaid yn cael corff ysbrydol yn mherson yr Iesu i weled trwyddo egwyddorion dwyfol a thragwyddol. " Od oes neb yn Nghrist," dyna greadigaeth newydd yn liywodraeth Duw; ac y mae egwyddorion dwyfol yn taflu newydd-deb ar bob peth gerbron ei feddwl. Yn yr undeb hwn, trwy y corff hwn, y mae ysbryd dyn yn cael ei rwymo i fyw a symud a bod yn y byd ysbrydol. Nis gellir cadw ysbryci yn hir yn y byd hwn heb gorff. Fe all enaid ar wahan oddiwrth gorff ddyfocl yma ar wibdaith, i ymweled â'n byd ni; ond nis gellir ei rwymo yma, mewn amrentyn y mae wedi ymaclael. Rhaid am undeb â chorff i'w gadw yma. Y mae hyn mor wir am bethau ysbrydol. Nid ar- osodd angylion, nac Adda, yn y byd dwyfol yn hir, ac nid oedd modd eu cadw. Rhaid am undeb â pherson i godi dyn i'r byd ysbrydol, ac i'w gadw