Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyf. II. RHAGFYR, 1SS6. RlIIF 24. Y LLYTIIYR AT YR EPHESIAID. GAN Y PARCH. D. CHARLES DAYIES, M.A., BANGOR RHIF XXIV. " Wedi íjoleuo llyc^aid eicli meddyliau ; fel y gwypoch beth ywgobaith ei al- wedigaeth ef, a pheith yw goludjgogoniant ei etifeddiaeth ef yn y saint." Eph. i. 1S Rhan yw yr adnod hon o weddi yr Apostol dros yr Ephesiaid. Y mae y wcddi yn dechreu yn yr adnod flaenorol, yn y geiriau,—"AriDduw ein Harglwydd Iesu Grist, Tad y gogoniant, roddi i chwi ysbryd doeth- ineb a datguddiad, trwy ei adnabod Ef." Ac y mae y geiriau, " wcdi golcuo llygaid eich meddyliau,"—neu lygaid eich calonau,—yn eglurhad ar y dull y mao yn rhoddi " ysbryd doethineb a datguddiad" i ddynion. Dengys y gydmariaeth pa fodd y mae yr enaid yn gallu sylweddoli gwir- ioncddau ysbrydol. Y mac gan y corff synhwyrau, a'r penaf o honynt ar lawer cyfrif yw y llygaid. Trwy y llygaid y mae yr enaid yn gweled—yn edrych—yn teimlo gwirionedd y pethau sydd o'i flaen—yn barnu pellder ac agosrwydd, yn gwahaniaethu lliw a llun, ac am hyny fe'u hystyrir yn briodol fel cyf- ryngau rhwng yr enaid â phethau allanol a gweledig. Felly y mae gan y galon lygaid i wcled pcthau anweledig i lygaid y corlf. Y llygaid hyn yw y galluoedd sydd gan ysbryd i ddirnad, sylweddoli, a theimlo awdurdod gwirioneddau sanctaidd ac ysbrydol. Trwy y galluoedd hyn y mae yr enaid yn teimlo presenoldeb egwyddorion dwyfol gyda yr un grym, ie, gyda mwy o rym nag y mae yn teimlo presenoldeb pcthau gweledig trwy lygaid y corff. Am hyny, priodol yw eu galw, "llygaid y mcddwl," ncu "ygalon." Y mae llygaid corff gan yr anifail a ddifethir, ond nid ocs ganddo lygaid calon i deimlo presenoldeb pethau ysbrydol. Ond er i'od gan gorff lygaid, y mae gweled â hwy yn ymddibynu ar ddau amod,—goleuni i dywynu arnynt, ac iechyd yn y Hygaid eu hunain. O ddiífyg y naill neu y lla.ll o'r rhai hyn nis gellir gweled. " A llygaid ganddynt ni welant." Fe all llen godi dros y llygaid,—fe all tywyllwch lenwi y faii lle maent, ac am hyny ni allant weled. Y mae yr un ddau reswm yn bosibl paham y mae dynion sydd wedi eu cynysgaeddu â gallu- ocdd cymwys i deimlo awdurdod pethau dwyfol, eto heb eu teimlo mwy na phe na byddent. Er mwyn i lygad y galon weled gwirionedd ysbrydol rhaid am oleuni datguddiad. Gan fod yn rhaid am dano, fe ddaeth y