Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SWnwgál Cyf. II. TACHWEDD, 1SS6. Rhif 23. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAID. GAN Y PARCH. D. CHARLES DAYIES, M.A., BANGOR HHIF XXIII. " Ar i Dduw ein Harglwydd Iesu Grist, Tad y Gogoniant, roddi i chwi ysbryd uoethineb a datguddiad, trwy ei adnabod ef." Eph. i. 17. Y mae Duw yn rhoddi i bechadur ysbryd doethineb i farnu rliwng sancteiddrwydd a phechod, mewn adnabyddiaeth o hono ef ei hun. Seilir y sylw hwn ar wirionedd dyfnach, sef fod hanfod ac elfenau doethineb yn gorwedd o angenrheidrwydd mewn adnabyddiaeth o Dduw. Y mae gwahaniaeth hanfodol ac angenrheidiol rhwng sanct- eiddrwydd a phechod. Y maent yn groes anghymodlawn i'w gilydd. Y mae yn bosibl i gymodi Duw â phechadur, ond cymodi cgwyddor sanctaidd âg egwyddor bechadurus nis gellir byth. Fe ddatodwyd canolí'ur y gwahaniaeth rhwng Iuddewon a Clienhedloedd ; fe ddoíìr rfel rydcl egwyddorion. Ac y mae yr holl anhawsder i heddychu Duw â phechadur, a gostiodd i'r Iesu ei fywyd, wedi gwreiddio yn yr anmliosibilrwydd i heddychu egwyddor dda âg egwyddor ddrwg. Y mae gan ddyn gyneddf, sef y gydwybod, gymwys i weled y gwahaniaetb, ac i farnu i ba un o'r ddwy egwyddor y mae ei weitliredoedd, ei eiriau, a'i feddyliau yn perthyn. Gosodwyd dyn gan ei Gre- awdwr yn farnwr. Fe ddaw y dydd i Dduw farnu dynion, ond yn awr y mac yn ddydd i ddynion farnu eu hunain, ac i farnu rhwng pethau a'u gilydd, a rliwng egwyddorion a'u gilydd. Ac fe ddylai dydd iachawdwriaeth i bechadur fod yn ddydd o gondemniad ar bechod yn y cnawd. Gwaith dyn ar y ddaear a ddylai fod yr un peth a gwaith yr Iesu y dydd olaf; barnu a didoli rhwng pethau sydd a gwir wahaniaeth rhyngddynt; a gosod dedfryd cydwybod mewn gweithrediad, costied a gostio, trwy ddweyd wrth y sanctaidd, " Deuwch," ac wrth y pechadurus, " Ewch." Os yw cydwybod yn ei lle, y mae ynddi ysbryd i farnu ac i wahaniaethu, ac ar ol canfod y. drwg y mae ysbryd llosgfa arno yn dilyn. Gan fod y gwahaniaeth rhwng pechod a sancteiddiwydd mor fawr, a chan fod gan ddyn gydwybod gymwys i weled y gwahaniaeth hwn, fe