Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyf. II. HYDREF, 18S6. Rhif 22. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAID. GAN Y PARCH. D. CIÎARLES DAYIES, M.A., BANGOR RHIF XXII. " Ar i Dduw ein Harglwydd Tesu Grist, Tad y Gogoniant, roddi i chwi ysbryd doethineb a datguddiad, trwy ei adnabod ef." Eph. i. 17. Y mae yr adnod lion yn cynwys crynhodeb mewn ychydig eiriau o'r gwahanol fendithion ag yr oedd Paul yn gweddio ar i'r Ephesiaid gael eu mwynhau, pa rai y mae yn nodi yn fauylach yn yr adnodau dilynol. Y mae y testyn yn darlunio yn 1, y rhoddwr ; yn 2, y rhoddion ; ac yu 3, y cysylltiad sydd rhyngddynt. Ond yn I. Y Rhoääwr. Y mae y rhoddwr yn cael ei ddarlunio yn yr adnod mewn dau air neu ddau enw,—" Duw ein Harglwydd Iesu Grist" a " Tad y gogoniant." Y cyntaf yw, 1. " Duw ein Harglwydd Iesu Grist." Dengys yr ymadrodd yma berthynas rhwng Duw a'r Arglwydd Iesu. Ý mae y berthyuas hon yn cael. ei hegluro yu fanwl gan Pedr ar ddydd y Pentecost. Fe'i profwyd gan Dduw ; fe wnaethpwyd nerthoedd a rhyfeddodau gan Dduw trwyddo ef; fe'i rhoddwyd trwy derfynedig gyngor a rhag-wybod- aeth Duw; fe'i cyfodwyd gan Dduw o'r bedd ; ac fe'i dyrchafwyd trwy ddeheulaw Duw ; ac fe'i gwnaed gan Dduw yn Arglwydd ac yn Grist. Pan y sonir yn y Beibl am fod yr Arglwydd yn Dduw i neb, nid y berth- ynas angenrheidiol sydd rhwng y Creawdwr a pliob creadur a feddylir, ond perthynas mewn cyfamod. Pan y crybwyllir ei enw fel Duw i berson neu genedl, y mae bob amser yn ddealledig fod yna gyf- amod wedi ei ffurfio rhyngddo ef a'r person hwnw, neu y genedl hono. Fe'i gelwir yn Dduw Abraham, am ei fod wedi myned i berthynas neillduol âg ef mewn cyfamod. " Cadarnhaf hefyd fy nghyfamod rhyngof â thi, ac â'th had ar dy ol di, trwy eu hoesoedd yn gyfamod tragywyddol, i fod yn Dduw i ti ac i'th had ar dy ol di" (Gen. xvii. 7). Àc os dy- wedir yn awr fod yr Arglwydd yn üduw i bechadur, y mae felly mewn cyfamod. " Oblegid hwu yw y cyfamod a amodaf fi â thy Israel ar ol y dyddiau hyny medd yr Arglwydd ; myfi a ddodaf fy nghyfreithiau yn eu meddw), ac yn eu calonau yr ysgrifenaf hwynt ; a rnyfi a fyddaf iddynt hwy yn Dduw, a hwythau a fyddant i minau yn bobl " (Heb. viii. 10.)