Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

latargrtá* Cyf. II. MEDI, 1886. Rhif 21. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAID. GAN Y PARCH. D. CHARLES DAYIES, M.A., BANGOR RHIF XXI. " Oherwydd hyn minau hefyd, wedi clywed eich ffydd yn yr Arglwydd Iesu, a'ch cariad tuag at yr holl saint, nid wyf yn peidio a diolch drosoch, gan wneuthur coffa am danoch yn fy ngweddiau." Eph. i. 15, 16. Yn y geiriau hyn y mae Paul yn cyferbynu ei deimladau tuag at yr Ephesiaid ag ymddygiad yr Ephesiaid at yr efengyl, fel y darlunir yr ymddygiad hwnw yn yr adnodau blaenorol. Yno fe ddarlunir yr Ephesiaid yn clywed, ac ar ol clywed yn credu ; yma y mae yr apostol yn darlunio ei hun yn clywed, ac ar ol clywed yn diolch. Yr hyn a glywodd yr Ephes- iaid tuag at gredu oedd yr efengyl; yr hyn a glywodd Paul tuag at ddi- olch oedd ffydd yr Ephesiaid yn yr Iesu a'u cariad tuag at y saint. Pa mor gryf bynag oedd y cysylltiad rhwng gwaith yr Ephesiaid yn clywed, ac yn credu, yr oedd y .cysylliad rhwng gwaith Paul yn clywed ac yn diolch yn fwy ; oblegyd yr oedd anmhosibilrwydd natunol iddo ddiolcb, oherwydd eu ffydd, heb glywed yn gyntaf eu bod wedi credu, ac o'r ochr arall yr oedd anmhosibilrwyd yn gwreiddio yn hanfod y bywyd ysbrydol oedd ynddo i'r Ephesiaid gredu heb i'r apostol ddiolch yn wresog drostynt y foment y clywodd hyny. Yr oedd ei ddiolch yn fr'rwyth naturiol ei gred ddiysgog o'r gwirionedd a fu yn egluro yn y paragraff o'r blaen, sef, bod iachawdwriaeth pechadur yn ei holl gyfan- waith, o'r bwriad yn nhragwyddoldeb hyd ffydd a sancteiddrwydd pechadur mewn amser, yn waith cyngor a gras Duw. Ac mewn canlyn- iad yr un teimlad a barodd iddo waeddi, " Bendigedig " yn y drydedd adnod wrth ystyried ei iachawdwriaeth ei hunr ag a barodd iddo ddiolch yn yr unfed ar bymtheg oherwydd ffydd a chariad yr Ephesiaid. " Oherwydd hyn "—oherwydd y gwirionedd pwysig yr oeffol Paul wedi ei glywed, ac oherwydd y bywyd ysbrydol oedd ynddo yn ymaflyd yn y gwirionedd hwnw, nid oedd yn peidio a diolch. " Minau hefyd" Y mae y gair hefyd yn gosod pwys ar y gair minau sydd yn gysylltiedig ag ef. Chwi a gredasoch, minau hefyd a ddiolchais. Pan y credasoch, yr oedd Uawenydd yn ngwydd angylion Duw am danoch ; a minau hefyd er mewn cadwyn, oeddwn mor llawen ag angel ar eich rhan. Pan sicrhaodd Duw sylfeini y ddaear, ac a'i gosododd ar ei cholofnau, " ninau hefyd " yw iaith yr angylion, " oeddym yn cydganu ac yn gor-