Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ptílttWgíut Cyf. II. AWST, 1886. Rhif 20. Y LLYTHYE AT YR EPHESIAID. GAN Y PAECH. D. CHARLES DAYIES, M.A., BANGOR RHIF XX. "Yrhwnyw ernes ein hetifeddiaeth ni, hyd bryniad y pwrcas, i fawl ei ogoniant Ef.'' Eph. i. 14. Fe ddefuyddir y gair ernes dair gwaith yn y Testament Newydd : yn yr adnod hon, acyn 2 Cor. i 22,—-'' Yr hwn hefyd a'n seliodd, ac a roes ernes yr Ysbryd yn ein calonau ;" ac yn 2 Cor. v. 5,—" À'r hwn a'n gweithiodd ni i hynyina yw Duw, yr hwn hefyd a roddodd i ni ernes yr Ýsbryd." Yn y tair adnod fe'i defnyddir am yr un gwrfchddrych, yr Ysbryd Glan ; a rhoddir y gair " gwysfcl " ar ymyl y ddalen yn y fcri lìe. Er y gellir cyfieithu y gair yu " ernes " neu yn " wystl" y mae gwahaniaeth yn ystyr y ddau air. G-wystl yw peth mewn meddiant ag syddyn sicrhau pefch mewn disgwyliad, a hyny trwy fod y pefch sydd mewn meddiant, o leiaf, mor werthfawr a'r hyn y disgwylir am dano. Fe geir eglurhad ar hyn mewn hanes yn Gen xxxviii. 17, 18. JSTi agawn un person ynaddaw i un arall " tÿnn gafr o blith y praidd ;" ond nid oedd y mynn ganddo ar y pryd i'w roddi, ac yr oedd y person gafodd yr addewid eisiau rhyw- beth raewn meddiant yn sicrhad o'i chyflawniad. Yr oedd gan yr addáwr ar y pryd werth y mynn mewn sel, braichledau, a ffon ; ac fe roddodd y rhai hyn yn wystl o hono. Y gwerth mewn meddiant oedd y sicrhad o'r hyn oedd mewn addewid a disgwyliad. Ond yr oedd y gwystl i'w roddi yn ol ar dderbyniad yr hyn a wystlwyd—" hyd oni hebryngech ef." Yr oedd y meddiant presenol o werth y pefch yn gymainfc sicrhad a phe buasai y peth ei hun mewn meddiant. Pan y mae gwerth arian yn cael ei roddi mewn tai neu dirocdd gelwir y gwysfcl yn mortgage. Pan y mae y naili berson yn myned yn atebol dros berson arall, fe elwir y person fel gwystl yn feichni'ydd. Yn yr ystyr yma nid yr Ysbryd Glan, ond yr Arglwydd Iesu yw y gwystl, íel y byddwn yn canu :— " Ar Galfari yn ngwres y dydd Y caed y gwystl mawr yn rhydd." Yn y peuill fe ystyrir yr lesu fel gwystl, fd srcurity i Dduw dros bech- adur, anfeidrol fwy gwerthfawr na'r rhai y safodd trostynt. Ond nid yn unig yr oedd person yr Iesu yn wystl i Dduw dros bechadur, y mae hefyd yn wystl i bechadur crediniol dros Dduw. Y mae dweyd " Efe yw yr Iawn," yr un peth a dweyd, "Efe yw y gwystl; oblegid nid gwerth ganddo oedd y gwystl, ond gwerth sydd ynddo. Y mae Duw wedi addaw etifeddiaeth i bechadur, ond eto heb roddi y llawn fwynhad