Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

%MmmâiL Cyf. II. GORPHENAF, 1886. Ehif 19. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAID. GAN Y PAECH. D. CHARLES DAYIES, M.A., BANGOR RHIF XIX. Eph. i. 13, 14. "Yn yr lr\vn y gobeithiasoch chwithau liefyd, wedi i chwi glywed gair y gwirionedd, efengyl eieh iachawdwriaeth : yn yr hwn hefyd, wedi i chwi gredu, y'ch seliwyd trwy Lîn Ysbryd yr addewid ; Yr Invn yw ernes ein hetifeddiaeth ni, hyd bryniad y pwrcas, i fawl ei ogoniant ef." Y.j geiriau hyn yw diwedclglo y frawddeg a ddechreuwyd yn y drydedd adnod. Y mae yr adnodau sydd yn gwneyd i fyny y frawddeg yn llawn " sain cân a moliant." Y mae y drydedd yn dechreu mewn diolchgarwch bywiog a gwresog am fendithion ysbrydol yn y gair "Bendigedig;" ac y mae yr olaf yn gorphen mewn "mawl i ogouiant Duw." Y mae y gwirionedd a ddysgir yn y paragraff yn cyfateb i'r teimlad a ddangosir ynddo. Y gwirionedd mawr sydd yn rhedeg fel edefyn o'r gair cyntaf i'r oìaf ydyw, fod iachawdwriaeth pechadur yn ogoniant i Dduw. Cynwysiad hwn yw—1. Bod yr iachawdwriaefch wedi dyfod oddiwrth Dduw fel ei hawdwr, ac yn 2. Ei bod yn arwain afc Dduw fel ei hamcan. Felly gesyd Ioan allan ymwybyddiaeth yr Iesu o fawredd ei berson fel gwybodaeth ei fod wedi dyfod allan oddiwrth üduw, ac yn myned at Dduw. Daw gogoniant person i'r golwg yn ei waith. Tuag at i berson gael ei ogoneddu yn ei waifch, y mae tri pheth i gydgyfarfod ; rhagoriaeth y gwaith ynddo ei hun, mawredd yn yr amcan mewn golwg, a chymhwysder yn y gwaith i gyraedd yr amcan mewn golwg. Y mae y pethau hyn yn cyfarfod yn ngwaith Duw ; ond yn benaf yn ei waith yn achub pechadur. Y maenfc i'w gweled yn y geiriau a ddarllenwyd. 1. Gwaith. 2. Amcan. 3. -Cysylltiad rhwng y gwaith â'r amcan. I. Rhagoriaeth t Gwaith. " Selio trwy Lâu Ysbryd yr addewid." Dengys y gair Glân fod pechod yn cael ei ystyried yma. fel budreddi yn ei natur, ag sydd yn cael ei gondemnio gan lygaid, ffroenau, a chyffyrddiad : y budreddi hwnw ag sydd yn beryglus yn ei effeithiau, am ei fod yn cynwys defnyddiau ag y mae gwres yr haf yn ei wasgar yn heintiau trwy y cymydogaethau lle y gadewir ef. Ond er cryfed y gym- hariaeth y mae yn rhy wan i ddangos holl ddrwg a holl ganlyniadau pechod. Pa mor ffiaidd bynag yw ei natur, y mae pechod yn ffieiddiach am fod yr ewyllys, a'r galon, a'r gydwybod wedi eu llygru ganddo. Pa mor adgas bynag yw budreddi i synhwyrau y corff, y mae pechod yn adgasach gan Dduw ; am fod ei natur Ef yn goethach na'r synhwyrau 1H-