Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

3KadmerM& Cyf. II. MEHEFIN, 1886. Rhif 18. Y LLYTHYE AT YR EPHESIAID. GAN Y PARCII. D. CHARLES DAYIES, M.A., BANGOR. RHIF XVIII. "Yn yr hwn y gobcithiasoch chwithau hefyd, wedi i chwi glywed gair j gwirionedd, efengyl eich iachawdwriaeth : yn yr hwn hefyd, wedi i chwi gredu, Ÿch seliwyd trwy Lân Yshryd yr addewid."—Eph. i. 13. Fel y mae clywed a chredu yn cael eu cysylltu yn y rhan flaenaf, felly y mae credu a selio yn y rhan olaf o'r adnod hon. Tuag afc weled y cysyllfciad, y mae yn rhaid i ni ddeall yn gyntaf natur ac amcan y selio. Yr oeddynfc yn selio ambell waith i (1) Ddiogelu. Fe seliodd Darius y garcg oedd ar enau ffau y Uewod, i'r non y tafìwyd Daniel, â'i sel ei hun, ac â sel ei dywysogìon (Dan. vi. 17). Fe seliodd Pilafc y maen oedd ar ddrws y bedd lle y claddwyd yr Iesu, er mwyn ei wneuthur yn udiogel (Mat. xxvii. 66). Yr oeddid yn selio hefyd (2) I guddio. Dywed Moses yn ei gân ddiweddaf cyn ymadael â'r ddaear, " Onid yw hyn yn nghudd gyda myfì, wedi ei selio yn mysg fy nhrysorau " (Deufc. xxxii. 34). Wrfch ateb Job allan o'r corwynt, y mae yr Arglwydd yn dweyd amy Lefiafchan, "Ei falchder yw ei emmau, wedi eu cau yn nghyd megis âselgaeth" (Job xli. 15). Yr arferiad mynychaf o selio oedd yn (3) I brofì gwirionedd ac awdurdod ysgrifen. Nid yr amcan wrfch selio ysgrifen oedd cadw y papyr rhag ymagor, fel y byddwn ni gyda'n llyfchyrau ; ond yr oedd enw perchenog y sel wedi ei gerfio arni; ac yr oedd ef, neu rjwun wedi ei awdurdodi ganddo yn argraffu (neu yn stamjrìo) y sel ar yr ysgrifen i roddi awdurdod ei enw wrthi. Yr oedd yr un grym yn yr enw wedi ei osod â sel, a phe buasai y gwr wedi ysgrifenu ei enw, a hyny oedd holl rym cymeriad a dylanwad personol a swyddol y seliwr i'r hyn yr oedd ei enw wedi ei selio wrtho ; ac felly yr oedd gwirionedd ac awdurdod yr ysgrifen yn cael ei gadarnhau i feddwl pob darllenydd o hono. Yr un amcan oedd iddo a'r hjn a wneir yn bresenol pan y dywedir, " sigmd, seaîed, and delẁered;" gyda hyn o wahaniaeth y byddis yn bresenol yn selio ac yn ysgrifenu yr enw ; tra y pryd hwnw yr oedd yr enw yn cael ei osod (ei stampio) wrth selio. (1.) Fe ysgrifenodd Jezebel lythyrau yn cynwys cynllun a gorchymyn i ladd Naboth yn enw Ahab, a seliwyd yr ysgrifen â'i sel ef, i roddi awdurdod y brenin i gynwys y llythyrau (1 Bren. xxi. 8). (2.) Fe roddodd Ahasferus ganiatad i Esther a Mor-