Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

3Wmergdl Cyf. II. MAI, 1886. Rhif 18. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAID. GAN Y PARCH. D. CHARLES DAYIES, M.A., BANGOR. Rhif XVII. "Yn yr hwn y gobeithiasoch chwithau hefyd, wedi i chwi glywed gair j Gwirionedd, efengyl eich iachawdwriaeth ; yn yr hwn hefyd wedi i chwi gredu, y'ch seliwyd trwy Lân Tsbryd yr addewid." Eph. i. 13. " Chwithau " yn yr adnod hon yw y cenhedloedd crediniol yn eglwys Ephesus, mewn cyferbyniad i'r Iuddewon crediniol y cyfeiriwyd atynt yn y gair " ni" yn yr adnod flaenorol. Yr unig bwnc y mae amrywiaeth barn yn ei gylch yn yr adnod hon ydyw, pa air y dylid ei ystyried cyn y gair " chwithau " er mwyn gosod allan feddwl yr apostol. Yr oedd y cyneithwyr Cymraeg yn meddwl mai y gair " gobeithiasoch " y dylid ei ystyried, gan mai hwn a ddefnyddir yn yr adnod flaenorol; eraill mai y gair " credasoch," oddiar yr ymadrodd " wedi i chwi gredu " yn y rhan nesaf o'r adnod ; eraill mai y gair "ydych;" ac eraill yn meddwl mai gwell gadael yr adnod heb un gair ychwanegol, ond cysylltu y gair " seliwyd " â'r geiriau íf yn yr hwn " yn y ddwy ran o'r adnod. Ond nid yw meddwl yr adnod mewn un modd yn dibynu ar ba un o'r golygiadau hyn a gymerir. Y mae yr apostol yn darlunio cenhedloedd crediniol Ephesus fel rhai wedi myned trwy dri gris meddwl: clywed yn gyntaf, credu yn ail, cael eu selio yn drydydd. Y mae y naill yn dilyn y llall o ran amser ; wedi clywed y gair y credasant yn Nghrist ; ac wedi credu yn Nghrist y cawsant eu selio drwy yr Ysbryd. Ond y mae rhanau eraill o'r Ysgrythyr yn dangos fod cysylltiad nes rhyngddynt na chysylltiad amser. Os yw yr adnod hon yn dweyd fod ffydd wedi clywed; y mae adnod arall yn dweyd fod ffydd triuy glywed ; ac yn gyffelyb fe ellir barnu fod y cyffelyb gysylltiad rhwng credu a selio. Y mae yr hyn a glywsant yn myned dan ddau enw, y rhai sydd yn dangos yr un peth : "gair y gwir- ionedd" yw un enw ; " efengyl eich iachawdwriaeth " yw'r llall. Ond y mae un gwahaniaeth rhwng y ddau ymadrodd. Yn yr ymáärodd olaf, fe hysbysir mai "efengyl iachawdwriaeth" y cenhedloedd yw, mewn cyfeiriad at yr hyn a ddywedodd yr angel wrth y bugeüiaid, Luc ii. 10, " yr hwn fydd i'r holl bobl." Nid un ran o'r ddaear, nid un genedl o ddynion, neu un dosbarth o bobl; ond eich iachawdwriaeth chwi y cenhedloedd fel yr Iuddewon. Fe gysylltir y gair iachawdwi*-