Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

JäMmwîÄ Cyf. II. EBRILL, 1886. Rhif 16. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAID. GAN Y PAECH. D. CHAELES DAYIES, M.A., BANGOR. Rhif XVI. " Fel y byddem ni er mawl i'w ogoniant E£, y rhai o'r blaen a obeithiasom yn Nghrist." Eph. i. 12. Yn gyferbyniol i'r gair " ni" yn yr adnod hon, y mae y gair " chwithau " yn yr adnod nesaf. Y mae y geiriau hyn—ni a chwithau—yn fynych yn y Hythyr hwn, ond y mae meddwl yr adnodau lle y ceir hwynfc yn dangos mai nid at yr un personau y maent yn cyfeirio yn y gwahanol fanau. Yn Eph. vi. 21—" fel y caech wybod ein helynt ni, ac fel y diddanai efc eich calonau chwi,"—y mae " ni " yn golygu yr aposfcol a'i gymdeifch- ion yn Rhufain, a "chwi" yn golygu yr egiwys yn Ephesus. Mewn rhanau eraill o'r episfcol hwn, y mae y ni yn cynwys y saint yn Ephesus. "megis yr etholodd efe n»";" a'r cyferbyniol i'r " ni " yn yr ystyr yma ydyw "hwynfc," am annuwiolion,—"Na fyddwch gan hyny gyfranog à hwynW Arferir y gair " ni" hefyd am Paul ynghyd a'r Iuddewon crediniol, a "chwi" y cyferbyniol iddo i ddynodi y cenhedloedd crediniol yn Ephesus. " Cofiwch a chwi gynt yn genhedloedd," &c. Yn yr adnod hon y mae y gair ni yn darlunio Iuddewon crediniol dan y cymeriad, "y rhai o'r blaen a obeithiasom yn Nghrist." Yn Eph. ii. 12 y mae daiiuniad cyferbyniol yn cael ei wneyd rhwng y cenhedîoedd credinol a'r Iuddewon yn yr amser aeth heibio, a gelwir y naill yn " ni " a'r llall yn " chwi." " Chwi " y cenhedloedd y pryd hwnw, cyn ym- ddangosiad Crist, heb obaith, ac heb Grisfc, a'r rheswm a rydd am hyny yw, " eu bod wedi eu dieithrio oddiwrth wladwriaeth Israel, ac yn estroniaid oddiwrth amodau yr addewid," Wrth ddefnyddio y rheswm hwn, y mae yn awgrymu fod plant Israel y pryd hwnw yn meddu ar obaith ac ar Grist; neu yn ol geiriad yr adnod hon, eu bod yn gobeithio yn Isghrist. Y pryd hwnw yr oedd y cenhedloedd heb obaith, ond yr Iuddewon, o'r blaen, sef y pryd hwnw yn gobeithio; hyny yw, cyn ym- ddangosiad Crisfc i ddatod canolfur y gwahaniaeth rhyngddynt trwy waed ei groes. Safle yr apostol yn adnod y lOfed yw Person Crist; ei safle yn yr lleg yw bwriadau Duw; ei safle yn yr adnod hon yw ymddangosiad Crist yn y cnawd. O'r fan hon y mae yn edrych yn ol ac ymlaen; ac yn gweled duwiolion o'r ddau du ; ac y mae yn dynodi mewn gair y gwahaniaeth yn ffurf eu teimladau gyda golwg ar Grist. Wrth edrych