Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

JÜatermtd. Cyf. II. CHWEFROR, 1886. Rhif 14. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAID. GAN Y PAECH. D. CHARLES DAYIES, M.A., BANGOE. Rhif XIV. " Yn yr hwn y'n dewiswyd hefyd, wedi ein rhagluniaethu yn ol arfaeth yr hwn sydd yn gweithio pob peth wrth gyngor ei ewyllys ei hun." Eph. i. 11. Dengys y lOfed adnod berthynas yr Arglwydd Iesu â phob pefch yn gyffredin ; adnod yr lleg. ei berthynas â'i bobl yn neillduol. G-osodir allan y berthynas gyntaf yn y gair " crynhoi;" y berfchynas olaf yn y gair " dewiswyd." Y mae y gair " hefyd " yn arwyddo fod y " ni " a ddewiswyd yn gynwysedig yn y pethau a grynhöwyd ; ac eto yn rhagori ar y pethau eraill a grynhowyd, trwy eu bod wedi eu dewis hef'yd. Y mae dau esboniad ar y gair " dewiswyd." Un ydyw, yr un sydd yn y cyfieithiad Saesneg, ac ar ymyl y ddalen yn y Gymraeg,—" yn yr hwn y cawsom etifeddiaeth ;" y llall yn ol y cyfieithiad Cymraeg, " Yn yr hwn y'n dewiswyd fel etifeddiaeth." Y cysylltiad sydd i benderfynu yr un cywir. Ni a gymerwn fei y mwyaf naturiol yr olaf,—"Yn yr hwn y'n dewiswyd fel etifeddiaefch," sef ei bobl yn etifeddiaeth i Dduw, "wedi ein rhagluniaefchu yn ol arfaefch yr hwn sydd yn gweifchio pob pefch wrth gyngor ei ewyllys ei hun." Y mae holl eiriau yr adnod hon, oddieithr y gair gweithio, yn dangos y bwriadau dwyfol fel ffyn- honell iachawdwriaeth, ac yn anhawdd eu gwahaniaethu oddiwrth eu gilydd. Y mae gwahaniaeth rhwng rhagluniaethu ac arfaethu,—rhag- luniaeth yn ol arfaeth ; ac y mae gwahaniaeth rhwng arfaethu ac ethol,—" Arfaeth yn ol etholedigaeth." Y gwahaniaeth rhwng y tri gair yw, Y mae golwg y gair ethol neu ddeiuis ar bersonau y cadwedigion : arfaelh ar amcan Duw tuag atynfc : rhagluniaethu ar y cynllun i gyraedd yr amcan. Arfaethu yw gwaith un yn gosod gerbron ei feddwl nôd neu amcan i ymgyraedd ato. Rhagluniaethu yw gwaith un yn tynu allan gynllun i weithio yn ei ol. Os yw yr esboniad hwn yn gywir, y mae meddwl yr adnod yn eglur, sef wedi iddo dynu cynllun allan yn ol yr amcan oedd ganddo mewn golwg, fe deitl oleu hefyd ar adnodau eraill, lle y mae y geiriau " rhaglunio " ac " arfaethu " yn gysylltiedigâ'u gilydd. Fel yma, fô dynodd gynllun yn ol ei amcan, tra efco yr oedd y cynllun a'r amcan yn mwriad fcragwyddol " yr hwn sydd yn gweithio pob pefch." Y mae amrywiaeth diderfyn yn y pethau y mae Duw yn gweithredu arnynt. Y mae yn Arglwydd y bydoedd ;—yn gofalu am yr anifeiliaid,—yn porthi y brain,—yn diodi yr asynod gwylltion,—yn rheoli y ddaear a'i hamgylchiadau, mawrion