Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyf. I. RHAGFYR, 1885. Ehif 12. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAID. GAN Y PARCH. D. CHARLES DAYIBS, M.A., BANGOR. Rhif XII. " Fel yn ngoruclrwyliaeth cyílawnder yr amseroedd, y gallai grynhoi ynghyd yn Nghrist, yr lioll bethau sydd yn y nefoedd, ac ar y ddaear, ynddo e'f." Eph. 1. 10. Sylwir yn gyntaf ar ystyr geir'au blaenaf yr adnod, ac yna ar yr athrawiaeth a ddangosir trwy eu cysylltiad â'u gilydd. 1. Amseroedd. Nid amser mewn cyferbyniad i dragwyddoldeb a reddylir, ac nid moment neillduol o amser ; pe felly fe fuasai y gair yn y rhif unigol, ac nid y rhif liosog. Amseroedd yw rhyw gyfnod penod- edig—gosodedig yn haues y byd. Y mae y cysylltiad âg adnod y nawfed yn dangos mai amseroedd a arfaethodd Duw ydynfc. Ac y mae yr un adnod yn dangos pa amseroedd oeddynt. " G-wedi iddo hysbysu i ni . . . . Fel yn ngoruchwyliaeth cyílawnder yr amseroedd," sef yr amseroedd a fwriadodd Duw i ddatguddio ei feddwl ynddynt, pa rai a ellir eu galw yn amsei'oedd y datyuddiad. Yr oeddynu yn parhau dros bedair mil o fiynyddoedd—yn farnau, yn gysgodau, yn brophwydol- iaethau; o'r addewid gyntaf hyd ogoneddiad yr Iesu. î" mae eu hanes wedi ei gofnodi o ddechreu Genesis i ddiwedd y Datguddiad,—yr holl gyfnod y bu Duw yn hysbysu i ddynion ddirgelwch ei ewyllys,—yr amseroedd hynotaf yn hanes y byd. 2. Cyflawnder yw yr hyn sydd yn llanw unrhyw beth. Cyflawnder y saith baeged oedd y briwfwyd a gasglwyd iddynt. Cyflawnder y ddaear yw yr holl drysorau sydd yu ei chrombil; yr oll sydd yn llanw y ddaear. Cyflawnder Crist, yw yr hyn sydd yn ei lanw. u Llawn gras a gwirion- edd." Gras a gwirionedd yw ei gyflawnder. Cyflawnder y Duwdod yw yr hyn sydd yn llanw ei hanfod,—yn ngoleuni Ioan i. 14, ei gymer- iad moesol,—ei hanfod yw y phiol anfeidrol sydd yn llawn gras a gwir- ionedd. Cyflawnder y gyfraith yw cariad. Cariad sydd yn llanw holl orchymymon y ddeddf. Isid yw peidio lladrata yn llanw y gorchymyn " Na ladrata," na pheidio lladd yn llanw y gorchymyn " Na ladd ;" ond cariad dyn at Dduw ac at ei gymydog sydd yn llanw meddwl yr holl orehymynion. Cyflawnder yw yr hyn sydd yn llanw. 3. Cyflawnd&r yr amsereedd yw yr hyn sydd yn llanw yr amseroedd. Yr amseroedd oedd y rhai a ragosododd Duw i ddatguddio ei ewyllys i ddynion ynddynt. Cyflawnder yr amseroedd oedd y gwahanol bethau a ddatguddiodd Duw i ddynion : y rhai a ystyrir yn llanw yr amseroedd hyny. Pan y gogoneddwyd yr Iesu, yr oedd amseioedd y datguddiad, nid yn unig wedi eu gorphen, ond wedi eu llanw hyd yr ymyl â dat- guddiad. Yn hanes Eliseus y prophwyd, fe ddywedir fod gan y wraig