Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

JMttwjrdÌ Cyf. I. TACHWEDD, 1885. Rhif 11. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAID. GAN Y PAECH. D. CHARLES DAYIES, M.A., BAN-GOE. RHIF XI. " Gwedi iddo hysbysu i ni ddirgelwch ei ewyllys, yn ol ei foddlonrwydd ei hun,.yr hon a arfaethasai efe ynddo ei hun." Eph. i. 9. Y mae dau gysylltiad rhwng yr adnod hon a'r nn fiaenorol. Y cyntaf yw cysylltiad amser ; yr hwn a nodir yn y geirian, " Gwedi iddo." Am bethau sydd yn digwydd mewn amser y mae yr apostol yn llefarn. Mewn amser y mae yr Ýsbryd yn gwneuthur y ffol yn ddoeth i iachaw- dwriaeth, ac yn rhoddi deali i'r anystyriol; ac mewn amser yr hysbysodd i ddynion ddirgelwch ei ewyllys ; ac y mae yn eithaf eglur ei fod yn rhoddi i ni ysbryd doethineb a deall mewn canlyniad i ,neu " gwedi iddo hysbysu i ni ddirgelwch ei ewyllys." Yn yr adnodau y bedwaredd a'r bumed y mae yr un ymadrodd, " gwedi iddo." Y mae yno anhawsder, am fod y geiriau " gwedi iddo "—geiriau amser—yn cysylltu pethau a gymerodd le yn nhragwyddoldeb. Yn nhragwyddoldeb, cyn seiliad y byd, yr " etholodd efe ni ;" yn nhra- gwyddoldeb y " rhagluniaethodd efe ni i fabwysiad;" a rhyw air perth- ynol i dragwyddoldeb a fuasai y mwyaf naturiol i gylymu pethau tra- gwyddol â'u gilydd. Ond fe fuasai y fath air yn hollol annealladwy i ni, a gwell oedd gan Dduw pan yn llefaru wrthym ni ddefnyddio gair nad oedd yn hollol gywir, ond yn ddealledig i ni, na defnyddio gair fuasai yn eithaf cywir, ac yn hollol annealladwy. Pan y gwisgwyd Dafydd âg arfau Saul,fe geisiodd gerdded ynddynt,ac fe waeddodd, -'Ni allaf gerdded yn y rhai hyn, canys ni phrofais," neu ni chefais ymarfer ynddynt ; " A Dafydda'u diosgodd oddiam dano." Yn y bedwaredd a'r buined adnod y mae pethau tragwyddol wedi eu gwisgo mewn geiriau amser, ac yn ceisio cerdded ynddynt, ond yn gorfod dywedyd, '' Ni allaf gerdded yn y rhai hyn." Cyn bo hir fe fydd pethau tragwyddol wedi diosg geiriau amser oddiam danynt, ao yn cerdded yn rhydd yn iaith tragwyddoldeb ei hun. Ond yn yr wythfed a'r nawfed adnod y mae pethau amser ^ n cerdded yn rhyddion yn iaith amser. Y mae yma hefyd gysylltiad arall rhwng y ddwy adnod, sef cysylltiad moddion ac amcan. Gosodir yr amcan allan yn y geiriau " doethineb " a " deall;" y moddion yn yr ymadrodd " hysbysu i ni ddirgelwch ei ewyllys." Trwy hysbysu gwirioneddau yr efengyl yn ei Air, a dangos eu gogoniant trwy ei Ýsbryd, y mae Duw yn cyflenwi enaid y pechadur â doethineb a deall ysbrydol. Ond yn y cysylltiad hwn y mae meddwl a rheswm a chalon y pechadur mewn Üawn weithrediad. Nid fel hyn o ran trefn y paai yn gweithredu ar galonau y rhaì sydd yn meirw yn eu