Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

3Wmergttó. Cyf. I. HYDREF, 1885. Rhif 10. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAID. GAN Y PAKCH. D. CHARLES DAVIES, M.A., BANGOR. RHIF X. " Tnvy yr hwn y bu efe yn helaeth i ni ymhob doethineb a deall." Eph. i. 8. " Yr hwn " yn y seithfed adnod yw yr Iesu ; " yr hwn " yn yr adnod hon ydyw gras. Y mae y gair "helaeth" yn cynwys meddwl mwy pendant na lliosogrwydd, sef mwy na dìgon, tuhwnt i'r angen presenol. Y mae y meddwl hwn yn amlwg yn yr esiamplau canlynol:—(1.) Yn y ddwy wyrth o borthi y miloedd. Fe ddigonwyd y miloedd, a'r helaeth- rwydd oedd y gweddill dros ben hyny. (2.) Y cyfoethogion yn bwrw i'r drysorfa, o'r helaethrwydd oedd yn weddill ar ol eu digoni. (3.) Y gweision cyflog yn y ddameg (Luc. xv. 17.), yn cael eu gwala, a'r gweddill oedd yr helaethrwydd. (4.) Amlder, " Nid yw bywyd neb yn sefyll ar amlder (sef ar fwy na digon), y pethau sydd ganddo" (Luc xii. 15). (5.) Helaethrwydd yn gyferbyniol i ddiffyg. " Eich helaeth- rwydd chwi yn diwallu eu diffyg hwy." Yr oedd y cyntaf yn fwy na digon, a'r ail yn llai na digon. " A chenych bob digonoldebyn helaeth." (2 Cor. viii. 14 ; 2 Cor. ix. 8—12. (6.) Y mae Paul yn cyferbynu helaethrwydd a phrinder. Yr oedd wedi ei ddysgu " i fod yn llawn ac i fod yn newynog, i fodmewn helaethrwydd, ac i fod mewn prinder..... Y mae genyf bob peth, y mae genyf helaethrwydd ; mi a gyflawnwyd " (Phil. iv. 12, 18). Nid helaethrwydd yn yr ystyr o fod uivchlaiv haeddiant a feddylir; oblegid nid oedd raid i Dduw ddangos cyfoeth ei ras i fyned uwchlaw haeddiant pechadur. I bechadur sydd yn haeddu cosp dragwyddol, y mae cymaint o ras ag sydd yn ymddangos mewn rhoddi iddo damaid o fara, ychydig o ddwfr oer, ymhell tuhwnt i'w haeddiant. Edrychwch am y"daioni lleiaf a dderbyniasoch erioed, y mae yn ddigon mawr i fyned tudraw, ac uwchlaw eich haeddiant, am hyny yn ddigon mawr i haeddu y diolchgarwch gwresocaf o'ch calonau. Y mae myrdd o bethau islaw maddeu ag sydd uwchlaw haeddiant pechadur. Nid helaethrwydd mwy na'r haeddiant a feddylir, ond helaethrwydd yn yr ystyr ofiuy na digon o ras. Y mae yr helaethrwydd yn dyfod i'r golwg yn y geiriau, u ymhob doethineb a deall." Y mae rhai yn barnu fod y geiriau hyn yn cyfeirio