Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

IWmemdd. Cyf. I. MEDI, 1885. Rhif 9. Y LLYTHYE AT YR EPHESIAID. GAN Y PARCH. D. CHARLES DAYIES, M.A., BANGOR. ItHIF IX. " Yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waecl ef, sef maddeuant pechodau, yn ol cyfoeth ei ras ef." Eph. i. 7. Fel yr addawsom y tro o'r blaen, gwnawn ychydig sylwadau pellach ar y tri mater olaf a grybwyllwyd, sef, 2. Y mae fod Duw yn prynu yn ol ei gyfoeth yn cynwys fod ei ras yn meddu ar ddefnyddioldeb cyfoeth. Y mae y defnijddioìdeb hwnw yn cael ei ddangos yn y gair " maddeuant pechodau." Wrth y gair defn- yddioldeb y deallir y cymhwysder a'r gallu sydd mewn rhai pethau i gyflawni unrhyw angen perthynol i ddyn. Y mae y dyn an- ifeilaidd o ran archwaeth yn cyfyngu ystyr y gair i'r hyn sydd yn gyfaddas i lanw anghenion y corff, gan wadu yn ymarferol fod gandclo enaid yn meddu anghenion i'w cyflenwi. Mae yr angel yn cyfyngu yr ystyr eto at yr hyn sydd gymwys i lanw anghenion ysbrydol, am nad yw yn meddu ar gorff daearol. Byd bychan o angenion mawr- ion yw dyn. Y mae holl anghenion yr anifail, a holl anghenion yr angel, fel y mae y naill a'r llall yn greadur, holl angen y cythraul fel y mae yn bechadur, yn cydgyfarfod yn y dyn,—dyma babell cyfarfod pob angen y gwyddom am dano, ac y mae pa beth bynag sydd yn gallu llanw rhyw angen perthynol i'w gorff, ei feddwl, neu ei galon, yn deilwng i'w alw yn ddefnyddioh Nid yw unrhyw beth yn deilwng o'r enw cyfoeth, os na ellir ei ddefnyddio i lanw angen perthynol i greadur. Fe ddichon peth fod yn eiddo i'r dyn trwy hawl cyfreithiol, fel na fedr neb ei ysbeilio o hono heb fod yn lleidr, ond ni all meddiant o'r hyn nid yw çlda i dclim byth wneuthur ei berchenog yn gyfoethog. Fe ddichon fod y peth wedi costio llawer o drafferth, llafur, ac arian i'w berchenog ; ac y mae y draul a'r drafferth hono yn ychwanegu at werth yr hyn sydd yn meddu gradd o werth ynddo ei hun yn barod ; ond ni all y draul uchaf a gwm- erir wneuthur yr hyn sydd yn ddiwerth hollol ynddo ei hun yn werth- fawr, neu osod y gwerfeh lleiaf ar yr byn sydd ynddo ei hun yn ani- ddifad o bob defnydd i lanw unrhyw angen perthynol i ddyn. Gall feddu mwy nag y gellir ei rifo, ei bwyso, na'i fesur o hono, ond nis gall yr helaethrwydd mwyaf o'r hyn sydd yn hollol ddiddefnydd wneyd ei berchenog yn gyfoethcg. Yn nghanoi ei helaethrwydd, tlawd ydyw. Cymerwn esiampl o beth hollol ddiddefnydd, sef us. Pe byddai dyn mor ffol a chasglu trwy y llafur caletaf, a'r draul fwyaf, helaethrwydd