Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Jlatergái Cyf. I. AWST, 1885. Rhif 8. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAID. GAN Y PARCH. D. CHARLES DAYIES, M.A., BANGOR. JRHIF VIII. "Yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed ef, sef maddeuant pechodau yn ol cyfoeth ei ras ef." Eph. i. 7. " Yn yr hwn," yn yr Iesu, yn yr Anwylyd y sonir ani dano yn yr adnod flaenorol, "y mae i ni brynedigaeth ;" m'd yn nghynygion yr Efengyl, nid mewn gobaith neu ddymuniad, ond mewn meddiant presenol. Saes, " We have." Y mae gwahaniaeth amseriad rhwng yr adnod hon â'r un flaenorol; hon yn cyfeirio at yr amser presenol, a'r llall at yr amser a aeth heibio.' " Gwnaeth ni," medd y chweched adnod ; "y mae i ni," medd hon. Yn yr adnod o'r blaen y mae yr apostol yn cyfeirio at weithred Duw yn mabwysiadu pechadur, yn ei wneuthur yn eiddo iddo, yr hon oedd weithred unwaith am byth ; yn weithred a gymerodd le' ar ddydd, awr, mynyd neillduol, mewn lle ac ar achlysur pendant ; yn weithred i edrych yn ol arni, a synu ac addoli wrth ei chofio. Yn adnod y testyn, y uiae yn cyfeirio at fendith- ion y cyflwr newydd ; y rhai ydynt mewn meddiant tragwyddol bresenol —mewn mwynhad o foment y cyfnewidiad ar y cyflwr, nid yn unig ar foment y cyfnewidiad, ac i ddìflanu wedy'n fel cwmwl y boreu, ond o'r foment hono ymlaen mewn meddiant parhaus, er nad bob amser mewn mwynhad parhaus. Gweithred moment fydd adgyfodi y corff o'r bedd, i'w chofio ar ol hyny, tra y bydd nefoedd i enaid a choríf yn cychwyn o hyny allan mewn mwynhàd tragwyddol. Fe all y saint ddweyd. " Yr hwn a'n hadgyfododd, yn yr h\vn y mae i ni ddigrifwch tragywyddol, &c. Adgyfodiad yw tröedígaeth pechadur. Y mae yr Arglwydd ei hun yn disgyn o'r nef mewn'rhyw bregeth, penill o hymn, neu benod o'r Beibl, gyda bloedd yr Archangel ac âg udgorn Duw, ac y mae y marw mewn camwedd a phechod yn adgyfodi. Adgyfodiad yw hwn nid i ddychwelyd mwy i lygredigaèth, fel na fydd rai'd wrth ail adgyfodiad. " Yr hwn a'm hadgyfododd/' ydyw iaitlr y Cristion wrth edrych yn ol ar y weithred, ond ni raid edrycìi yn ol ar y bendithion sydd yn gysyllt- iedig â'r weithred, am eu bod mewn meddiant presenol. Y mae bendithion yr efengyl yn meddiant y Oristion gyda yr un sicrwydd ag y mae y Cristion eí" hun yn meddiant Crist. Y gwirionedd cyffredinol sydd yn codi o gysylltiad yr. adnod yw,