Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

JMnwgM. Cyf. I. GORPHENAF, 1885. Rhif Y LLYTHYR AT YR EPHESIAID. GAN Y PARCH. D. CHARLES DAYIES, M.A., BANGOR. RHIF VII. "Er mawl gogoniant ei ras ef, trwy yr hwn y gwnaeth ni yn gymeradwy yn yr Anwylyd." Eph. i. 6. Cysylltir y geiriau hyn â'r gair rhagluniaethu yn adnod y bumed ; ac fe enwir dau beth yn amcan i'r rhagluniaethu, sef, mab- wysiad pechadur, a mawl gogoniant gras Duw. Dengys hyn nad yw doethineb Duw yn rhodio mewn tywyllwch heb wybod i ba le y mae yn myned, ond ei bod yn cyfeirio at amcan pendant, a hwnw yn ddeublyg, mabwysiad i bechadur, a mawl i Dduw. Cysylltwyd y mabwysiad a'r mawl yn y fath fodd. fel y mae doethineb Duw yn cyraedd y ddau ar yr un foment; a'r hyn a gysylltodd Duw nis medr creadur byth ei wahanu. Hefyd, nid yw doethineb Duw yn cynllunio er mwyn y pleser o gynllunio, ond er mwyn diben tuallan iddi ei hun. " Er mawl gogoniant ei ras ef." "Gogoniant gras." Fe ddefnyddir y gair gras mewn dau ystyr yn y Beibl: un ydyw, gras yn Nuw, megis, " A hwy wedi eu cyfiawnhau yn rhad trwy ei ras ef" (Rhuf. iii. 24.); a'r llall ydyw gras yn nghalon pechadur, megis, " Cynyddwch mewn gras " (2 Pedr iii. 18). Yn Nuw, gwedd neillduol ar ei gariad ydyw : yn y pechadur, gwedd neillduol ar sancteiddrwydd ydyw. Ystyr y gair gras yw teimlad ffafriol o ewyllys da; ac yn gymaint a bod teimladau yn gyffredin yn ymddangos mewn gweithredoedd, eangir y gair yn fynych i ddarlunio y teimlad o ffafr yn gweithredu—gras mewn gweithrediad. Ffafr yn neillduol mewn cyferbyniad i gyfiawnder ydyw: y mae cyfiawn- der yn ol haeddiant, yn ol dyled, ond y mae gras yn ffafr i'r anhaeddianol. " Ni chyfrifir y gwobr o ras, ond o ddyled" (Rhuf. iv. 4). Darlunir gras yn ffafr mewn cyferbyniad i weithredoedd haeddianol yn Rhuf. xi. 6, lle y dangosir fod gras o ran ystyr y gair yn cau allan bob haeddiant a allai godi oddiwrth weithredoedd. Ond y mae i bob ffafr ddwy ochr; ochr y rhoddwr, ac ochr y derbyniwr. Duw yw y rhoddwr, a gras ynddo ydyw ei ewyllys da at bechadur; pechadur yw y derbyniwr, a gras ynddo ef ydyw y daioni a dderbyniodd gan Dduw, a'r teimlad diolchgar sydd ynddo am dano. Am hyny, fe gyfieithir gras yn ddiolchgarwch yn fynych yn y Beibl; megis, " I Dduw y bo diolch," Rhuf. vi. 17; 2 Cor. ii. 14; 1 Tim. i. 12, &c. Nid yw sancteiddrwydd yn Nuw yn cael ei alw yn ras; ond gelwir