Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ladmeroátl. Cyf. I. MEHEFIN, 1885. Rhif 6. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAID. GAN Y PARCH. D. CHARLES DAYIES, M.A., BANGOR. JEtHIF VI. " Wedi iddo ein rhagluniaethu ni i fahwysiad tnvy Iesu Grist iddo ei hun, yn ol boddlonrwydd ei ewyllys ef." Eph. i. 5. Ystyr y gair rhagluniaethu yw tynu allan gynllun gwaith, gan osod ei derfynau rhag neu cyn dechreu gweithio. Dengys y gair mai nid ar ddamwain, nid yn anfwriadol, nid fel un yn cael ei arwain gan amgylchiadau i wneyd yr hyn ni feddyliodd am dano o'r blaen, yr oedd Duw yn gweithio. G-wnawd llawer o bethau felly. Feí esiampl, nid ei gynllunio a gafodd Cyfundeb y Methodistiaid Calfin- aidd yn y cychwyn, ond newidiodd yn ei drefniadau yn y can' mlyn- edd diweddaf fwy na'r un Cyfundeb arall, am fod amgylchiadau yn codi yn annisgwyliadwy, a'i drefn yntau yn cael ei newid i gyfarfod yr amgylchiadau newyddion. Felly hefyd y mae bywyd dyn ar y ddaear. Fe all fod amcan pendant o flaen ei lygaid, ond y mae amgylchiadau yn ei gyfarfod nas meddyliodd am danynt rhagllaw, fel y mae, er cadw yr un amcan mewn golwg, dan yr angenrheidrwydd o newid ei gynllun, er cyraedd yr amcan hwn, yn ngwyneb yr amgylch- iadau newyddion. Ond am Dduw, ni ddigwydd amgylchiad, na bach na mawr, yn y nefoedd, ar y ddaear, nac yn uffern, ymhlith angylion, dynion, cythreuliaid, y creaduriaid direswm, neu ddifywyd, nas gwelodd ef o dragwyddoldeb. Ni bu raid iddo erioed wneuthur y cyfnewidiad lleiaf yn y cynllun a dynodd iddo ei hun. Yn y bedwaredd adnod sonir am ethol, sef fod personau wedi eu dewis gan Dduw i'w perffeithio ; yn y bumed adnod am raglun- iaethu, sef fod cynllun wedi ei dynu allan tuag at hyny ; a'r cynllun yw mabwysiadu trwy Iesu Grist. Y mae ethol yn dangos ei benarglwydd- iaeth a'i ras, rhagluniaethu yn dangos y ddoethineb sydd yn cyraedd amcan y gras hwnw. Y mae yr adeiladydd yn ethol wrth benodi man i adeiladu tŷ arno: yn rhaglunimihu wrth dynu portrëad (pìan) o'r tŷ. Y mae gwahaniaeth mawr rhwng y naill fan a'r llall; ac am hyny y mae neillduolrwydd y fan yn angenrheidiol i'w ystyried wrth dynu allan y cynllun. Ond nid oes gwahaniaeth rhwng y naül ddyn a'r llall o ran llygredigaeth gwreiddiol. Y mae pawb yn yr un sefyllfa golledig— wedi tori yr un ddeddf— wedi digio yr un Duw, a than lywodraeth yr un pechod. " Pawb a bechasant, ac ydynt yn ol am ogoniant Duw." Am hyny nid yw y personau a gedwir yn effeithio dim ar y drefn i gadw, canys y mae y drefn i gadw «» mor gymwys ac mor ddigonol i gadw