Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

JHadttwgdi Cyf. I. MAI, 1885. Ehif 5. Y,.LLYTHYR AT YR EPHESIAID. GAN Y PARCH. D. CHARLES DAYIES, M.A., BANGOR. K H I F V . "Fely byddem yn sanctaidd ac yn ddifeius ger ei fron ef mewn cariad.'' Eph. i. 4. Y mae geiriau olaf yr adnod yn eglurhau un syniad yn y gair * ethol.' Cynwysa y gair ethol fod person yn dewis allan o blith pawb iddo ei hun. Y mae yr hyn a feddylir wrth y geiriau iddo ei hun, yn cael ei benderíynu, nid gan y gair ' ethol ;' ond gan eiriau eraill sydd mewn cysylltiad âg ef. Pan y dewisodd Crist " y deuddeg " o blith y disgyblion iddo ei hun, y mae Marc yn esbonio meddwl y geiriau trwy ddweyd, " fel y byddent gydag Ef ;" ac felly y mae Paul yn esbonio y dewisiad iddo ei hun sydd yn gynwysedig yn y gair ' ethol,' trwy y geiriau olaf o'r adnod,—" Fel y byddem yn sanctaidd ac yn ddifeius, ger ei fron Ef mewn cariad." Am hyny y mae Duw yn cyfrif creadur yn eiddo iddo Ef ei hun yn ystyr oreu ac uwchaf y gair—pan y mae yn sanctaidd ac yn ddifeius. Y mae y geiriau hyn yn cael eu dwyn i mewn yma i amcan arall heblaw i esbonio y gair ' ethol,' sef i esbonio paham y bendithiodd Duw ni " â phob bendith ysbrydol yn y nefolion leoedd yn Nghrist." Yr esboniad yw, mai ei amcan yn ethol pechadur oedd ei sancteiddio. Y mae y rheswm hwn yn myned ar y dybiaeth fod elfen sancteiddiol yn holl fendithion yr efengyl. Ac felly y mae : os ydynt yn ysbrydol, Ysbryd Glan a'u cynyrchodd ; os ydynt yn nefol, y maent fel y lle heb ddim aflan ynddynt; os ydynt yn Nghrist, y mae ei waed ef yn glanhau y neb sydd yn eu meddu odoliwrth bob pechod ; ac y mae pob Cristion yn derbyn pob un o fendithion yr efengyl am mai amcan Duw tuag ato yw ei sancteiddio. Sylwir ar—1 Amcan Duw yn yr Efengyl. 2 Y sicrwydd y cyrhaeddir yr amcan. I. Amcan Duw yn yr efengyl. " Fel y byddem yn sanctaidd ac yn ddifeius ger ei fron Ef mewn cariad." Fe nodir yr amcan yma yn bedwar plyg ; ac yma yn unig yr enwir y pedwar. Enwir dau o'r pedwar yn Eph. v. 27, " Ond fel y byddai yn sanctaidd ac yn ddifeius?'' Ceir tri yn Col. i. 22, "I'ch cyflwyno chwi yn sandaidd, ac yn ddifeius, ac yn ddiargyhoedd ger ei fron ef.u Ond yma enwir pedwar, sandaidd, dtfeius, ger eifron ef mewn cariad. Yn Judas, 24, cawn, " yn ddifeius mewngorfoledd" yn lle "mewn cariad."