Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

jMtttëttdi Cyf. I. EBRILL, 1885. Rhif 4. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAID. GAN Y PARCH. D. CHARLES DAYIES, M.A., BAJÍGOR. R HIF IV. " Megis yr etholodd Efe ni ynddo Ef cyn seiliad y byd, fel y byddem yn sanctaidd ac yn ddifeíus ger ei fron ef mewn cariad." Eph. i. 4. Cysylltir yr athrawiaeth o Etholedigaeth yma â'r geiriau blaenoroî, ac â'r geiriau dilynol. Cysylltir hi â'r geiriau blaenorol â'r gair "megis," ac â'r rhai dilynol â'r gair " fel." " Megis yr etholodd Efe ni"........."fel y byddem sanctaidd." Y cysylltiad blaenaf yn unig fydd dan ein sylw yn bresenol. Ethol:—Y mae tri syniad yn gynwysedig yn y gair hwn,—(1.) Dewis; (2.) dewis pob un o blith pawb ; (3.) dewis iddo ei hun. Ar y gwahanol achlysuron y defnyddir y gair yn y Beibl y mae y tri syniad yma yn gynwysedig ynddo. Bydd ychydig esiamplau yn ddigon i ddangos hyn. (1.) Am etholiad y deuddeg apostol dywedir, "o honynt Efe a etholodd ddeuddeg " (Luc vi. 13), " fel y byddent gydag Ef," (Marc iii. 14.) (2.) Yn Luc x. 42, dywedir, " A Mair a ddewisodd y rhandda"—dewis un rhan dda allan o'r llawer o bethau, "yrhonni ddygir oddiarni"—fe'i dewisodd iddi ei hun. (3.) Yn Luc xiv. 7, darllenwn am y gwahoddedigion, bod rhai o honynt yn dewis yr eisteddleoedd uchaf iddynt eu hunain. (4.) Sonir, yn 1 Cor. i. 27, 28, am Dduw yn dewis dynion i'w hachub ; ac fe etholodd iddo ei hun, "ffol bethau," "y gwan bethau," "pethau distadl," "y pethau dir- mygus," a'r " pethau nid ydynt fel y diddymai y pethau sydd." Ac yma Efe a'n hetholodd ni, allan o'r byd, iddo ei hun, a hyny mewn trefn i ni fod yn sanctaidd ac yn ddifeius ger ei fron Ef mewn cariad. Ond fe all y dewisiad fod yn y meddwl dwyfol, neu fe all ymddangos yn ymarferol yn ngalwad effeithiol yr efengyl. Yma o angenrheidrwydd ,y cyntaf ydyw ; canys y mae yr ethol wedi cymeryd lle cyn seiliad j byd—cyn bod na daear na dyn—uwchlaw treigliad amser—cyn bod amser. Y mae yr ymadrodd seiliad y oyd yn cynwys fod y byd yn cael ei gyffelybu i dŷ ; ac y mae y ddaear yn debyg i adeilad, os edrychir arni gyda rhyw radd o fanylder. Pan y cloddir i'r ddaear, ymddengys yn fwy tebyg fyth i adeilad,—haen (straium) jn gorwedd ar haen, fel careg ar gareg mewn tŷ, a chymerwyd canoedd a miloedd o flynjddoedd i ffurfio pob haen. Os dilynir y gymhariaeth, seiliad y dyàroeàd. yr hyn a grewyd gyntaf yn y dechreuad, pan y creodd Duw y nefoedd a'r ddaear, ag y mae adnod .eyntaf Llyfr