Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyf. I. MAWRTH, 1885. Rhif 3. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAID. GAN Y PARCH. D. CHARLES DAYIES, M.A., BANGOR. R H I F III. " Pob bendith ysbrydol yn y nefolion leoedd," Eph. i. 3. Y MAB yr ymadrodd hwn i'w gael amryw weithiau yn yr Epistol at yr Ephesiaid, i. 3, 20 ; ii. 6 ; iii. ]0 ; a'r vi. 12. Yr hyn a feddylir wrth ddweyd fod bendithion yr efengyl yn nefol yw, eu bod yr un o ran eu natur ag a fwynheir yn y nefoedd. Y mae y gair nef yn cynwys dau syniad—" lle gogoneddus a hyfryd," fel y dywed y Hhodd Mam, a'r ansawdd priodol i'r lle. Holl gynwysiad y gair yw cyfarfyddiad y ddau—y dymer yn ei holl berffeithrwydd mewn undeb â'r lle yn ei holl ogoniant. Y mae i nefoedd, fel i ddyn, ei henaid a'i chorff; cysylltiad y ddau sydd yn gwneyd nefoedd gyflawn, fel y mae cysylltiad y ddau yn gwneyd dyn cyflawn. Am hyny, fe eìlir rhanu bendithion y nef yn ddau ddosbarth—y bendithion cysylltiedig â'r lle, a'r bendithion cynwysedig yn anian y lle. " Anwylyd, yr awrhon meibion i Dduw ydym.........ni a gawn ei weled ef megys ag y mae." Bendithion cysylltiedig â'r lle ydyw '• gweled yr Arglwydd Iesu megis ag y mae," bod uwchlaw temtasiwn i becîiu, heb y byd a'i amgylchiadau cyfnewidiol, heb Satan a'i gynllwynion, heb ddagrau, heb farwolaeth, heb dristwch, na llefain, na phóen, na siom mewn dim ; ac i goroni y cwbl, yr hinsawdd ag sydd yn foddion i ddadblygu holl deimladau yr enaid i'w prydferthwch mwyaf, nes y medr yr Ysbryd Glan waeddi yn yr olwg ar ei waith â llef uchel, ** Gorphenwyd," fel y gwaeddodd y Mab ar ddiwedd ei waith yntau. Yn y lle yn unig y mae y bendithion hyn i'w cael; rhaid cyrhaedd _y Ue i'w mwynhau, oblegid bendithion priodol i'r lle ydynt; y lle a'u piau, ac ni ellir eu cael ar y ddaear oddieithr i'r ddaear gael ei throi yn nefoedd mewn ystyr lythyrenol. Ond y bendithion eraill sydd yn nefol, yw y rhai sydd yn gynwys- edig yn anian y lle. Y rhai hyny ydynt,—ymddiried yn Nuw, cariad at Grrist, addoli mewn ysbryd a gwirionedd, canu â'r ysbryd ac â'r deall hefyd, casineb at bechod, cyfiawnder a thangnef sdd a llawenydd yn yr Ysbryd Glan, ac ymroddiad i fyw yn dduwioi. Y mae yr hwn sydd yn meddu ar y rhai hyn wedi ei fendithio eisoes yn y nefolion leoedd. iN"id yw dwyn y lle i'r dd&ar yn bosibl, er y gallwn bron dybied fod y ddau le yn ymylu ar eu gilydd gan y drafnidiaeth barhaus sydd rhyng- ddynt ; ond y mae yn bosíbl dwyn i'r ddaear deimladau ysbrydol y nef, ac i enaid pechadur eu meddu yn eiddo iddo ei hun. A phe' byddai y