Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyf. I. CHWEFROR, 1885. Rhif 2. Y LLYTHYE, AT YR EPHESIAID. GAN Y PARCH. D. CHAHLES DAYIES, M.A., BANGOR. RHIF II. " Gras fyddo i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tad, a'r Arglwydd lesu Grist." " Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn a'n ben- dithiodd ni â phob bendith ysbiydol yn y nefoüon leoedd yn Nghrist," Eph. i. 2, 3. Y mae yr Apostol wrth ddweyd " Gras i chwi," &c, yn edrych ymlaen o byn allan yn ddiderfyn ; ond yn y geiriau, " yr hwn a'n bendith- iodd ni," yn edrych yn ol at y pethau a gymerodd le hyd yn hyn. Y mae y presenol yn ganolbwynt iddo, i edrych yn gyntaf ymlaen, ac yna yn ol. Gwna hyn yn yr oll o'i epistolau oddigerth tri ; yr eithriadau ydynt, 1 Timotheus, Titus, a'r Hebreaid. Y mae Ioan, yn Dat. i. 4—6, yn gwneuthur yn gyffelyb. Ac os ydyw y nefolion yn canu y geiriau, " Iddo ef, yr hwn a'n carodd ni," &c, cofiwn mai un o hen benillion y ddaear a ganodd Ioan yn ynys Patmos ydyw. Ac os gallant hwy eu canu, croesaw iddynt o holl benillion y ddaear. Yn unig, cofiwn, wrth ddweyd eu bod yn eu canu, ein bod yn rhoddi yn eu genau yr hyn a gyfansoddodd Ioan yn ynys Patmos ; ac y byddai yn llawn mor gymwys i ni roddi yn eu genau y geiriau hyn, " Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist," &c Y presenol yw y bryn o'r hwn y mae yr apostol yn edrych yn ol ar y byd a aeth heibìo, ac ymlaen ar y byd a ddaw ; y llinell sydd yn gwahanu yr hyn a aeth heibio oddiwrth y dyfodol, fel angau ei hun yn gwahanu dau fyd. Yr oedd llawer moment iddo yn fath o Iorddonen, ac felly yr oedd yn marw beunydd, gan ei fod yn edrych ymlaen mewn dymuniadau duwiol, ac yn ol gyda diolchgarwch gwresog ; hyn oedd y parotoad goreu i groesì o'r byd hwn i'r llall. Yr oedd pethau o'r tu ol iddo ag yr oedd yn eu hanghofio er mwyn ymestyn at y pethau o'r tu blaen (Phil. iii. 13) ; ond yr oedd yn edrych ar bethau o'r tu ol a fyddent yn help iddo ymestyn ymlaen. Ba edrych yn ol ar Sodom yn rhwystr i wraig Lot ymestyn ymlaen; tra y galwodd Duw sylw Jacob at hen ddigwydd- iad—" Myfi yw Düw Bethel," &c—er mwyn ei anog i fyned ymlaen at ryw ddyledswydd oedd ganddo mewn golwg iddo (Gen. xxxi. 13.) Y cysylltiad yma yn nheimlad yr apostol yw :— Fod yr hyn a umaeth Duw yn yr amser a aeth h&ibio, yngefnogaeth » ddiaawyl wrth Dduto yn yr amser i ddyfod. "Gras fyddo ì chwi," &c., sydd yn weddi wedi ei seiüo ar y bendithion a gafwyd yn flaenorol.