Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

latomdi Cyf. I. IONAWR, 1885. Rhif. 1. "CENAD 0 LADMERYDD." CYFARCHIAD. íí AS bydd gydag ef genad o ladmerydd, un o fìl, i ddangos i ddyn ei \J uniondeb," ebe Elihu, pan yn argyhoeddi Job o'i gamsyniad am briodoldeb ac amcan goruchwyliaethau yr Arglwydd tuag ato. Meddwl y gair " lladmerydd ', ydyw, eglurwr, neu ddehonglwr—un yn esbonio ac yn amlygu ystyr pethau tywyll a chuddiedig, ac wrth " genad o lad- merydd," yn y gair a ddyfynwyd, y meddylir, un yn cael ei anfon gyda'r oruchwyliaeth ddyrus a thywyll i ddangos i ddyn uniondeb Duw ynddi. Yr oedd Job yn methu deall a deongli ymddygiadau rhyfedd a dieithrol yr Arglwydd tuag ato, ac yr oedd yn anhawdd iddo wneyd hyny yn ol mesur ei brofiad a'i fanteision blaenorol. Y mae goruchwyliaethau Duw at ddyn yn fynych yn dywyll a dirgeledig iawn, ac nid yw ef dan rwym- au i'w hegluro i neb yn y mesur lleiaf, nac i roddi rheswm am danynt. ' Nid yw efe yn rhoi cyfrif am ddim o'i weithredoeddi" "Y mae yn ceryddu dyn trwy ofìd ar ei wely, a lliaws ei esgyrn â gofid caled;" ac y mae yn siarad â dyn yn y pethau hyn, unwaith, îe, ddwywaith, ac yntau yn methu ei ddeall. Eto, tra anfynych, un o fil, y bydd ganddo gyda'r oruchwyliaeth ddieithrol " genad o ladmerydd," i ddangos i ddyn uniondeb Duw ynddi. . Ond y mae y cyfryw genad yn dra defnyddiol a gwerthfawr pan y bydd. Os bydd gydag ef " genad o ladmerydd, un o fil, i ddangos i ddyn uniondeb Duw yn ei ffyrdd," nes y dywed y dyn, " Mi a bechais, ac a wyrais uniondeb, ac ni lwyddodd i mi; Efe a wared ei enaid ef rhag myned i'r clawdd; a'i fywyd a wêl oleuni. Wele hyn oll a wna Duw ddwywaith neu dair â dyn, i ddwyn ei enaid ef o'r pwll, i'w oleuo â goleuni y rhai byw." Y fath gysur oedd yn dyfod i ddyn mewn canlyniad i waith y lladmerydd yn ei oleuo am driniaethau Duw yn ei ragluniaeth ; ac nid diangenrhaid yn aml ydyw " Cyfiawnhau ffyrdd Ior i ddynolryw." Y mae fíyrdd a gwaith Duw ymhob cysylltiad yn llawn dirgelwch, fel y mae angen Lladmerydd i'w hegluro, er mai datguddiedig- aethau o hono Ef ydynt. Y mae Duw yn datguddio ei hun yn ei weithredoedd ac yn ei Air, ond y mae y Grair a'r gweithred- oedd yn dirgelu llawer wrth ddatguddio. Y mae Gair Duw yn cael ei