Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWLADGARWR. ; CAS GWR NA CHARO Y WLAD A'I MACO." Rhifyn 10. HYDREF, 1843. PRIS 2 GEINIOO. HANES Y BEIBL CYMREIG. [Paihadtudal. 94.] Yr oedd y Testament Newydd a argraphwyd yn yr argraphiad cyntaf hwnw o'r Beibl yn 1588,* wedi ei wneydgan Salesburya. Davies, a'i ddiwygio yn unig gan Morgan. Oblegid rhyw reswm, anhysbys yn breseno], darfu i'r Dr. (Morgan) ei adchwilio a'i ddiwygio dra- chefn, ac yr oedd yn barod i'r wasg, pan y bu ef farw yn 1604. Pa un a oedd ef wedi bwr- iadu aeY-argraphu yr holl Feibl, neu pa un a argraphwyd y cyfieithiad diwygiedig hwnw o'r Testament Newydd, nid yw hysb^s yn bresen- ol. Yn nheyrnasiad Iago I. gwnaed adchwiliad a diwygiad yn nghyfieithiad yr holl Feibl, gan Richard Parry, canlyniedydd Morgan yn Es- gobaeth Llanelwy. Gŵr o enedigaeth o Ruth yn ydoedd Parry, a ganwyd ef oddeutu y fl. 1578, cafodd ei ddysg yn Ysgol Westminster, o dan yr enwog W. Lamden—un o ysgolheig- ion penaf yr oes, ac awdwr gwaith canmolad- wy o hanes Brydain, a elwir Britannia ; ac y mae yn dra theilwng iddo gael llawer o gy- northwy gan ei ysgolor Cymreig. Etholwyd Parry i fyned i Rhydychain pan yn 1C oed. Wedi hyny, aeth yn Ganghellydd aDeon Ban- gor, ac yn Offeiriad Gresford, yn swydd Ddin- bych ; a phan ddaeth Iago i'r orsedd, yr oedd ei dyb yn uchel am dano, fel yr enwodd ef i Esgobaeth Llanelwy. Bu farw yn Nyserth, ger Llanelwy, swydd Fflint, yn 1623. Yr oedd Beiblau Dr. Morgan wedi myned yn dra phrinion bellach, fel ag yr oedd y rban fwyaf o'r Eglwysi heb yr un, neu yn ddryll- iedig iawn, os cafodd pob Eglwys a Chapel plwyfol un ar y cyntaf, yr hyn sydd yn dra amheus. Y mae yr Esgob yn ei Lythyr Llad- in, at y brenin, yr hwn sydd fel rhagymadrodd i'r Beibl hwnw, yn cwyno fod mawr eisieu am air Duw yn y wlad—fod llawer llan, ac o gan- * Yn yr un flwyddyn ag yr argraphwyd yr holl Feibl i'r Gymraeg, y cyfodwyd y felin bapyr gyntaf yn y deyrnas hon ; sef yn Dartfort, yn Kent—trwy drwydd- ed-lythyr y frenines i John Sp'lman, o Germany ; ond yr oedd rhai yn gwneyd papyr yn ddirgelaidd cyn hyny. Yn yr un flwyddyn yr argraphwyd y papyr- au newyddion cyntaf yn y deyrnas hou, sef yr " En- glish Mercurie." lyniad, lawer plwyf, naill ai heb un Beibl, neu ynte yn hen îyfr drylliedig, a rhan o hono yn eisieu. Dywed hef'yd, mai hyna oedd cyflwr, nid yn unig rhai, ond y rhan fwyaf o Egíwysi, ac yn ganlynol, y rhan fwyaf o'r wlad.— Vr oedd y cyfhewidiadaua wnaed yn yr argraphiad hwn yn gyfryw, fel mai braidd y gellid ei alw yn gyfieithiad newydd hollol; ac yn ol barn amrai yn waethygiad. Y cyfieithiad cyfnew- idiedig hwnw yw y cyfieithiad. presenol awdur- dodedig. Anrhegwyd y brenin âg un o honynt, ac y mae hwnw i'w weled yn awryny JBritish Museum, Llundain. Y mae yn lyfr tnawr hardd unplyg—wedi ei argraphu â llythyrenau duon—wedi ei ddosbarthu fel yr argraphiad arall—y mae cynwysiad helaeth i'r penodau, a chyfeiriadau ymyl-lenawly Beibl Saesonig, a elwir Beibl y Brenin Iago—y mae llenau yr Hen Destament a'i ^ipocrypha yn cyraedd i E e e e 3—y mae llenau y Testament Newyddyn cyraedd i Y2—y mae yn ei ragflaenu, Galender a chyfiwyniad Lladin Sacrosanctae, Sfc, indi- ridual Trinitati, S/c, ac i'r Brenin Iago. Ar- graphwyd yn Llundain, gan Norton a Bill, ar- graphwyr i'w Fawrhydi, yn y fl. 1620. Mab oedd Norton —Bonham Norton, i William Nor- ton, Stationer, yn Llundain. Yr oedd Bonham hefyd yn Stationer, ac yn un o Henuriaid dinas Llundain. Priododd Jane, merch Tho?nas Owen, Ysw., un o Farnwyrydadleuoncyffred- in, a bu fyw am beth amser yn Church Sheton, yn swydd Amwythig, lle y bufarw, Ebrill5ed, 1635, yn 70 oed. Mae yn debyg mai ei bartner John Bill oedd yn edrych ar ol y fasnach yn Llundain, Yr oeddent hefyd yn argraphydd- ion i'r brenin tros Iwerddon. Pan argraphwyd araeth Siarl I. ar ollyngiad y Senedd, yn 1628, darfu i Bill argraphu araeth y Frenines Eli- zabeth yn gydiol, ac anfon y ddwy yn un llyfryn yn anrheg i'r brenin ; yr hyn a anfoddlonodd ei Fawrhydi yn fawr. Ond i ddychwelyd—Ymddengys i'r argraph- iad hwn eto gael ei ddwyn yn mlaen gan sêl gwirfoddol a phersonol yn unig, heb gefnogaeth o'r Llywodraeth—nid felly y bu i gael y Beibl Saesonig. Yr oedd yr enwog a'r dysgedig Dr. John Daries, person Mallwyd, awdwr y Geirlyfr Cymraeg a Lladin, yr hwn a gyhoedd-