Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWLADGARWR. ' CAS GWR NA CHARO 'Y WLAD A'I MACO." Rhifyn 9. MEDI, 1843. PRIS 2 GEINIOG HANES Y BEIBL CYMREIG. (Parhâd tudal. 84.) Epallai na fyddai yn anmhriodol yma, i ni wneyd rhyw sylw o Argraphwyr y Beibl hwn, sef Christopher a RobertBarher. Yr oeddent yn by w yn arwyààPenyDywatgi ( Tiger's ìiead), yn Paternoster-row, ac yn cadw Shop yn myn- went St. Paul, yn arwydd y Ceiliog-rliedyn. Yr oeddent yn deilliaw o deulu cyfrifol, a gwedi cael yr hawlfraint i argraphu yr Ysgrythyrau gan y Frenines Elizabeth. Darfu i'r Brenin Iago adnewyddu yr hawl-fraint hòno i Christ- opher, mab Robert Barher. Dywedir gan Ames fod Robert Barher wedi talu £3,500 am ddiwygio cyfieithiad y Beibl hwn. Y mae y swm yn ymddangos yn anferth yn yr oes hòno, ac yr oedd yn rhaid ei fod yn talu i'r holl gyfieithwyr. Robert Barher yrieuangaf oedd hwn, a Beiblau Saesonig oedd y rhai y talodd gymaint am eu diwygio ; ond er hyny, hynod o wallus y gwneid y gwaith, canys yn y Beibl Saesonig a argraphwyd gan Robert Bar- ker a Martin Lucas, yn y fl. 1632, argraphwyd mil o honynt â'r gwall pwysig ynddynt, sef, " Thou shalt commit adultery," yn y seithfed gorchymyn, trwy adael allan y *( not;"—sef " gwna odineb,'' yn lle " Na" wna odineb. Pan ganfuwyd hyn, galwwyd yr holl lyfrau i fyny, a dirwywyd yr argraphwyr i £3000; am yr hyn, yn ol gorchymyn y Brenin Siarl I, y prynwyd tawddlestri i wneyd llythyrenau Groeg, i argraphu rhyw weithiau enwog a gaf- wyd yn llyfrgelloedd y brenin, a'r ddwy brif- ysgol; a rhoddwyd ygwaitb i Barker a Lucas, o dan y teimlad tyner (heb law fod y rhagor- fraint ganddo) ei fod wedi cael ei fawr dylodi, trwy y ddirwỳ fawr hòno. Ond er y ddirwy uchel hòno, gwallus yr oedd argraphwyr y Bren- ìn yn gwneyd eu gwaith ar y Beiblau (Saeson- ig), canys yn y fl. 1634, daeth Beibl allan â'r gwall hwn ynddo,—sef yn Salm xiv. 1; " The fool hath said in his heart there isa God," h. y. yr ynfyd a ddywed yn ei galon y mae Duw, yn île " Nid oes yr un Duw,'' am yr hyn eto y dirwywyd yr argraphwyr yn drwm, ac yr at- taliwyd lledaeniad y Beiblau. Bu Christopher farw Tach. 29ain, 1599., a Robert a fu farw yn Ngharchar y JCing's Bench, Ionawr lOfed, 1645, wedi cael ei ddwyn i iselder amgylchiad- au mewn rhan fawr trwy y dirwyon trymion hyny. Ŵedi i ni fel hyn fyned mwy nâ pheidio oddi wrth ein testyn, yr ydym yn awr yn dy- chwelyd yn ol at y prif gyfieithydd—yr Esgob Morgan. Pa fodd y daeth ef i gymeryd y gwaith ? Ymddengys nad oedd wedi cael ei roddi ar waith gan y frenines na'r esgobion— ond ei fod wedi cymeryd y gwaith o hono ei hun, oddi ar deimlad o'r angenrheidrwydd mawr oedd am yr ysgrythyrau oll i'r Prydein- iaid. Yr oedd hefyd alw mawr yraa a thraw ar hyd y wlad am y Beibl oll, er fod ysbryd Pabaidd yn gryf y pryd hwnw, yn erbyn i'r cyffredin gael y Beibl vn eu hiaith eu hunain; ac i'w attal, dyfeisiwyd celwyddau noethion yn erbyn y Ficar, hyd yn nod gan ei blwyfolion eu hunain, trigolionLlanrhaiadr-y'-Mochnant; ac aethant mor bell ag achwyn ar ei anaddas- rwydd i fyned at y fath orchwyl, nid yn unig wrth esgob ei esgobaetb, ond hefyd wrth Arch- esgob Caergaint, (Canterbury,) o fìaen yr hwn y gorfu i'r Ficar nesàu yn grynedig; eithr wedi i'r Archesgob ei holi, gwelodd yn eglur ei fod yn un o'r rhai medrusaf yn yr Hebraeg a'r Groeg, ac mor eglur deallodd anwiredd ei gyhuddwyr. Gofynodd yr x\rchesgob iddo,— " Afedrwch chwi Gymraeggystala Hebraeg?" Y Ficar a'i hatebodd yn ostyngedig, gan ddy- wedyd," Gobeithio,fy Arglwydd, y goddefwch i mi eich sicrhau y medraj iaithfy mam yn wett nag un iaith arall. Gwedi hyn cafodd bob an- ogaeth i fyned yn mlaen yn ei orchwyl llafurus. Ond wedi y cyfan, ymddengys nad oedd am- gylchiadau y Ficar yu gyfryw ag a'i galluogai i ddwyn y gwaith yn mlaen, heb lawer o gy- northwy, yn enwedig, cynorthwy tymorol, fel yr ymddengys oddi Avrth ei gyfaddefiad ei hun, yn ei lythyr cyflwynol o'r Beibl i'r Frenines Elizabeth ; canys ymadrodda yno fel y canlyn : —" Ac wedi ei ddechreu, diffygiaswn, o ran an- hawsdra y gwaith, a mawredd y gost, a dyg- aswn Bum Llyfr Moses yu unig at yr Argraph- wasg, oni buasaii'r Parchedig John Whitgiflft, Archesgob Caergaint, achles\vr dysgeidiaeth, amddiffynwr gwirionedd, a thirion wrth ein cenedl ni, fy nghymhorth â'i haelioni, a'i awd- urdod, ac â'i gynghor, i fyned yn mlaen. Ya