Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWLADGARWR CAS GWR NA CIIARO Y WLAD AI MACO." RHIh-YN (5. MEHEFIN, 1843. PRIS 2 GEÍNIOG- HANES YR EGLWYS. (Parhâd tudal. 40.) Yr oedd yr eglwysi yn yr amseroedd boreol hyny yn hollol annibynol; nid oeddun yn ddar- ostyngedig i awdurdod y llall, ond llywodraeth- id pob un gan ei phenaethiaid a'i chyfreithiau ei hunan, Canys er bod yr eglwysi a seíÿdl- wyd gan yr apostolion yn derbyn y parch neill- duol hwnw o gael ymgynghori â hwynt mewn achosion anhawdd ac amheus, eto nid oedd ganddynt un awdurdod cyfreithiol, un math o oruchatìaeth dros y lleill, na'r hawl leiaf i wneuthur cyfreithîau iddynt. Yn y gwrthwyn- eb, nid oes dim yn fwy amlwg nà'r cydraddiad perffaith a fodolai yn mysg yr eglwysi cyntefig; a nid oes un arwydd yn ymddangos yn y canrif cyntaf, hyd yn nod o'r cymdeithasiad hwnw o'r eglwysi taleithiol, o'r hwn y mae eynghorau ac esgobaethau yn derbyn eu dechread. Ni dde- chreuodd yr arferiad o gynal cynghorau yn Groeg, cyn yr ail ganrif, o ba le y Uedaenodd yn fuan trwy y taleithiau ereill." Y"n ol yr eglurhadau hyn ymddengys fod llywod-ffurf foreol vr eglwys yn hynod o syml, yr hon oedd mewn mesur holaeth yn gynghreir- iad addysgw)r gwahanol ac annibvnol, ac iddi yn raddol gymeryd nodebau allanol Presbyter- iaeth (cystadledd gradd, ond cyd-awdurdod- iad); hefyd, yn olaf, fel yr oedd Cristionogaefh yn lledaenu, a'r cymdeithasau gwasgare.üg o gredinwyr yn gofyn arolygiad a chynghor bìaenoriaid, ddarfod i fath o Esgobaeth neu arolygiad gan esgobion apostolaidd gyfodi. Yn ol ereill, y mae yr esgobion wedi bod yn arolygu o'r dechread, y blaeuaf o ba rai oedd yr apostolion ; ac y mae yn rhesymol meddwl fod rhyw oruwch-lywodraethwyr o'r fath, gan arferyd eu hawdurdod yn yr ysbryd o berffaith gariad, yn angenrheidiol er cadw trefn ac un- ffurfiaeth athrawiaefh; y mae ar yr un pryd yn amlwg, pa un bynag ai fel cystadlradd neu uwchradd, fod yr apostolion a'r esgobion bore- ol yn cyflawni y swydd o athrawon cyffrcdin crefydd. Ymddengys awdurdodiad gweinid- ogion yr efengyl trwy ordeiniad, neu yr arwydd o arddodiad dwylaw, i fod wedi bodoli o oesodd boreaf Cristionogaeth. Aelodau yr eglwys yn Antioch, a sefydlwyd gan Paul a Barnabas, oeddent y rhai cyntaf a dderbyniasant yr enw Crintionogion ; fe'u gelwid cyn hyny yn Na- zareniaid, mewn ffordd o wawd. () tua diwedd y canrifcyntaf hydy chweehed, blodeuodd corph o ddynion enwog mewn cy- sylltiad â'r eglwys, y rhai yn y cyffredin oedd- ent yn cyflawni y swydd o broffesor duwinydd- iaeth a moesddysg, yn nghyda hòno o fugeilio yr eglwys. Y mae y rhai hyn yn adnabyddus yn Hanes yr Eglwys trwy y teitl Tadau. Yr oeddent o ddau brif ddosbarth—tadau Groeg a Lladin—ac yr oeddent oll yn hynod am eu dysgeidiaeth. Y mwyaf enwog yn mysg y tadau Círoeg oedd Clement o Alexandria (yn nechre yr ail ganrif), yr hwn oedd y cyntaf a ymresymodd ynathronyddol ar Gristionogaeth ; Origen, yr hwn oedd unwaith yn ddysgybl Cle- raent, yn enwog am eihomiliau a'i ysgrifeniad- au a eglurent yr Ysgrythyrau ; Éusebius, yr hwna ysgrifenodd hanes gyntaf Cristionogaeth; Athanasius (296—373), Esgob o Alexandria, a dyn o ddewrder anorchfygol o clan erlidig- aethau, ysgrifeniadau yr hwn a arferodd ddv- lanwad neillduol ar athrawiaethau Cristionog- aeth: a Chrysostom (344—407), meudwy, a'r hwn a hoffwyd fwyaf o'r hen areithwyr. V rhai enwocaf yn mysg y tadau Lladin oedd- ent—Tertullian, yr hwn a anwyd o gylch canol yr ail ganrif, ac ysgrifenydd o gryn wreiddiol- rwydd; Augustine (354—430), dyn o hyawdl- edd deniadol, duwioldeb dwfn, a pîeidiwr g^-resog bywyd mynachaidd ; Ambrose ^340 —397), Esgob JNlilan, areithiwr enwog, ac yn hynod am nodwedd lariaidd a thirion; a Je- rome (331—420), un o'r ysgrifenwyr mwyaf dysgedig ac esbonwyr galluog yr Ysgrythyrau, y rhai y darfu iddo eu cyfieithu i'r Lladin. Yn ystod yr ail a'r trydydd canrif, y mae hanes yr Eglwys yn cael ei hanffurfio yn fawr gan honiad yprifallu gan yr esgobion ; dos- barthiad yr offeiriaid i îs raddau a swyddau; cynydd dulliau defodol, ymprydiau, agŵyliau; ac, uwchlaw y cwbl, gwahaniaeth barn yn mhlith Cristionogion ar byngciau eu credo. Gellir olrhain un o'r prif achosion o'r gwahan- iaeth barni ddylanwad cydredol yr athroniaeth- au Groegaidd, yn neillduol i'r eiddo Plato. Cawsai llawer o'r dychwdedigion eu haddysgu yn yr athròniaethau hyn,ac er eu Çristìoùogi,