Skip to main content

Cyî. I. ^HÄOpYH, 1900. f^hif 9. BARDDONIAETH, NADOLIG. Nadolig, dygi ar dy hynt Dy fri o'r hen Nadolig gynt-- Nadolig cyntaf hael ei drem— Nadolig cyntaf Bethlehem, Pan roddodd Duw ei Fab dinam Yn aberth rhwng y byd a oham; Pan wisgodd Ef ein natur d'lawd, Pan ddaeth yr Iesu ini'n frawd; Pan methodd nef a chadw'i chan, Ond torodd allan megys tan. Ar foreu tawel gyda'r wawr, Cyrhaeddai'r cor o'r nef i'r llawr; "Oogoniont" oedd yr adsain fry, "Tangnefedd" ar ein daear ni; Parha y gan ymlaen o hyd Fel tonau bywyd trwy y byd; Cyflyma'i sain soniarus syn, O wlod i wlad, o fryn i fryn, A buan bydd y ddaear gron Yn dofcio ar yr anthem hon, A'r byd a'r Iesu yn ei gol, Yn canu can i'r nef yn ol, Nes byddo'r angel mewn edmygedd sydyn A hwyl, yn pwyso'n dawel ar ei delyn, Wrth glywed teulu'r llawr mewn hwyl a hoen Yn canu gyda'u gilydd gan yr Oen. 0! cofia di fy ngwlad byth fendigedig, Fod yn y cor yn diolch am galenig. MYFYB EMLYN. YMSON AR DDIWEDD BLWYDDYN. 'Rwyf heddyw'n brudd fy mron Ar ddiwedd blwyddyn, A'r lan cythryblus don Bfeb dant i'm telyn; Fy enaid tua'r nef, Dros yr Iorddonen gref, OJyw adlais wan, a llef Mawl-gerddi'n disgyn. Ti wenaist, flwyddyn wen, Ar ddechreu'th fywyd, Fel lleufer prydferth nen, Yn eurliw hyfryd; Cyfriniol wrid dy rudd Fel asur oleu ddydd, A'n llanwodd ni a ffydd, Uwch afon adfyd. Ond ah! rhwng breichiau'r gwydd 'Roedd "Mawrth" yn lleohu, Ao angau ynddo'n nghudd Yn airaf nesu; Dros riniog drws y ty Y daeth, ar draed o blu', A chipiodd droe y lli' Y Fam anwylgu. Bu'n oanu am y nef Dan boen a gwendid, Ond yno 'nawr mae'i thref Yn iach, mewn hawddfyd; Lleddf-ganu yn ddihedd Y'm ni, ar lan ei bedd; Yn wael a thrist ein gwedd, Fel cyrs yn ysgwyd. Ffarwel, O flwyddyn flin! A'th ddyrys droion; Tes cariad Duw ei hun, Fu ein cysuron; Yn ddiogel yn Ei law, Dwg ni rhyw ddydd a ddaw, Fel teulu'r ochr draw, I fynydd Seion. TTWI.