Skip to main content

Cyf. I. OIEDI, 1900. HŸiiî 6. DELFRYDÂU CREFYDDOL. CYMHWYSDERAU HANFODOL ATHRAW. fALLEM feddwl fod tri pheth o leiaf yn hanfodol i wneyd athraw teilwng :— I. DUWIOLDEB PERSONOL.—Heb hyn nis gall yr athraw fyned i mewn yn iawn i ysbryd yr Ymadroddion Sanctaidd, nis gall deimlo fel y dylai yn achos cyflwr ysbrydol ei dd'osbarth, ac nis gall roddi cyfeiriad priodol i'w meddyliau gyda go'wg ar grefydd. Gall yr ysgolfeistr wneyd ei waith, hwyrach yn ddigon effeithiol. tr bodi yn ddyn digrefydd, gan nad oes gan- ddo i gyfranu ond addysg fydol; ond > mae gan athraw yn yr Yegol Sul i gyfranu addysg grefyddol i'w ddosbarth, a rhaid yw «ael profiad pereonol o ddylanwad crefydd i allu gwneyd hyny yn iawn. Gresyn os oes rhai digrefydd yn cael eu rhoddi yn athrawon yn ein Hysgolion Sul. Ni ddy- lai y dynion hyn fod felly. Dynion o dduwioldeb diamheuol ac o brofiad cre. fyddol addfed sydd yn gymhwys i fod yn athrawon crefyddöl. n. GWYBODAETH FEIBLAIDD, Nid yw duwioldeb personol yn ddigon ei hunan; rhaid hefyd wrth wybodaeth Feiblaidd, gan mai cyfranu y gyfryw wy- bodaeth yw yr amoan. Ofnwn fod diffyg mawr ar y pen hwn, dynion i bä rai y mae Gair Duw bron a bod yn "ddieithr- beth" yn cael eu gosod yn athrawon i ieu- enctyd ymofyngar! Ai gonnod mewn oes mor llawn o fanteision addysg yw disg*^! mewn athrawon gael o leiaf wybodaeth gywir o brif wirioneddau CrÌ6tionogaeth, o brif ffeithiau Dadguddiad ac o'r prif symudiadau yn mywyd a marwolaeth ein Hiachawdwr? Nid heb lafur a rhagbaro- toad y gall yr athraw, mwy na rhyw weith- iwr neu swyddog arall, gymhwyso ei hun i'w waith; a dylai ei wneyd yn fater cyd- wybod i barotoi yn briodol i gyfarfod r.'t ddosbarth. Diau, mai cymorth mawr i hyn fyddai fod yr holl ysgol yn cyd-ddar- llen yr un gyfran o'r Ysgrythyr; a bod cyfarfod o'r athrawon yn wythnosol i gyd- fyfyrio y wers ar gyfer y Sul dilynol. III. DAWN I ADDYSGU.—Nid oob dyn gwybodus sydd yn fedrus ar gyfranu gwybodaeth i eraill. Ar yr un pryd, na feddylied yr anghyfarwydd, am fod ihai yn meddu ar ddawn naturiol at hyn, fod v gyfryw ddawn allan o gyrhaedd y neb a kifurio am dani. Gwna cariad at y gwaith, ac awyddfryd' i wneyd daioni lawer iawt. tuag at gymhwyso y mwyaf anfedrus at y gwaith. Dywedai Dr Arnold (a phwy a allai ddweyd yn well?) "that which we know and love we cannot but communi cate; and that which we know and do not love we soon, I think, cease to know." Pe llwyddid i gael athrawon o'r cymhwysder- au hyn (ac ni ddylid gorphwys nac arbed llafur hyd nes eu cael) byddai graen araU ar eih Hysgolion. (O'r "Seren Gomer," 1880).