Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyf. I. ÄttlST, 1900. £hiî 5. DELFRYDAU CREFYDDOL, YR EGLWYS A'R YSGOL. t'R rhai a fagwyd ar ei bronau, y mae yr Ysgol Sabbothol yn fam anwyl ; carant son yn aml am y ^ Ueshad a dderbyniasant drwyddi eu hunain, a mawr awyddant weled pawb eraill yn derbyn yr unrhyw leshad. Ond y mae i bob rheol ei heithr- iad, ae y mae ymhlith plant yr Ysgol am- bell un a anghofiodd y fendith dderbyniodd ynd li, ac na tbeimla ond ycbydig ddydd- ordeb yn ei gwaith. At y cyfryw rai v mae cyfeiriad y nodiadau hyn. Nid ein bwriad yw dwrdio neb, ac ni chredwn ychwaith fod mwy o'r dosbarth a nodwyd yn Salem nag yn rhyw eglwys arall. Cyd- nabyddwn yn llawen iawn, werth an- hraetbol gwaith Ysgol Salem yn y gor- phenol, ac y mae heddyw o dan dywysiad yr "Hyffordd'wi" yn gweithio yn orchesto) «o effeithiol iawn. On 1 "nid da dim lle gellir gwell." Camsyniad dybryd fyddai i ni orphwys ar ein rhwyfau ac ymfodd- loni ar yr hyn a gyrhaeddwyd. Ni chawn wasanaeth goreu y gorphenol os na'n hys- brydolir ganddo i bethau mwy ac uwch. Yr hyn y teimlwn fyddai yn gryn galon- did i weithwyr yr Ysgol Sabbothol fyddai gweled yr Eglwys yn fwy cyffredinol yn teimlo dyddordeb ynddi. Ymddengys yn dra gwrthun i weled aelodau crefyddol yn aros gartref yn eu tai ar brydnawn Sul yn jìorthi diogi, tra y mae y plant ac eraill mewn eisieu cael eu dysgu yn mhethau Duw. Ai i ychydig o'r aelodau y perthyn bod yn ffyddlon i'r Ysgol? Nid oes neb yn credu y fath beth; ac eto dyna yw iaith ymddygiadau canoedd. Frodyr a chwiorydd anwyl, oa cyfranodd Duw i chwi ryw fesur o allu i wneyd daioni, ni cbewch yn unman well cyfle i arfer y gallu hwnw nag yn yr Ysgol. Pan y teimb wch eich hunain yn cael eich temtio i osgoi eich dyletlswyddau, cofiwch y dydd y daw Duw i ofyn cyfrif oddiar eich dwy- law am y defnydd wnaethooh o'r talentau a ymddiriedwyd i'ch gofal. Deuwch a cliynorthwywch ni. Dewch, dewch, i'r Ysgol Suî, Paham y sefyll draw Ar hyd y dydd heb wneuthtir dim ? Dewch, rhoddwch help eich llaw. Dewch, dewcb, i'r Ysgol Sul, Fan yma mae eich gwaith; A lle i ddechreu gwaith barha I dragwyddoldeb maith. OFFRYMAU Awst 5. Athrofa Gaerdydd. Awst 12. Cymundeb. Awst 19. Tylodion yr Eglwys. Awst 26. Trysorfa Adeiladu. /iDtsíaòur. PREGETHWYR. Myfyriwr Athrofa Bangor. Gweinidog