Skip to main content

Cyf. I. mEfiEpifl, 1900. £hif 3. DELFRYDAU CREFYDDOL, LLYWODRAETH AR Y DYMHER. DUEDD gyffredinol yw i edrych ar " dymher ddrwg " fel gwen- did, heb lawer o ddrwg ynddi. Siaradwn am dani fel diffyg naturiol, ffaeledd teuluol; mewn gair, fel rhywbeth nad yw yn werth nac o bwys i'w hystyried wrth ffurfio tyb am gymeriad dyn. Ac eto, yn y Beibl con demnir hi drachefn a thrachefn fel un o elfenau mwyaf dinystriol y natur ddynol. Neillduolrwydd tymher ddrwg yw mai bai pobl rinweddol ydyw. Ceir yn aml mai hyhi yw yr unig frycheuyn ar gymer- iad, ag eithrio hyny, sydd yn ardderchog ymhob ystyr. Adnabyddwn wyr a gwrag- edd ydynt i bob golwg ddynol bron yn ber- ffaith; yn meddu pob nodwedd daionus, ond—gresyn, yr "ond" hyn!—ond, gwyllt- ineb tymheredd yn distrywio'r cwbl. Y mae yn amheus a oes unrhyw ffurf ar bechod na bydolrwydd, trachwant am olud, nac hyd yn nod meddwdod ei hun, yn an- Nghristioneiddio cymdeithas yn fwy na thymher ddrwg. Fel gallu i chwerwi bywyd, tori cymdeithasau i fyny, dinystr- io y berthynasiaetE gysegredicaf, difrodi cartrefi, gwywo gwyr a gwragedd, tynu ymaith wrid maboed—mewn gair, fel gallu i gynyrchu pob math o drueni calon-rwyg- ol, saif ar ei phen ei hun. Ac, nid yn unig yn yr hyn ydyw ynddi ei hun, ac yn ei dylanwad', y mae tymher yn bwysig, ond hefyd yn yr hyn a ddad- guddia. Y mae yn brawf (test) o gariad, yn arwydd, yn ddadguddiad o natur, sydd yn y gwaelod yn hunan-gar a di-gariad. Twymyn gyfnodol ydyw, yn amlygu y dolur parhaol sydd oddimewn. Bwrlwm ydyw, sydd yn awr ac eilwaith yn dianc i'r wyneb, i fradychu y pydredd sydd yn y gwaelod. Enaid yn cael ei ddadblygu trwy anochelgarwch moment. Y mae gwylltineb tymher yn arddangos amddifad- rwydd o'r pethau pwysicaf; amddifad- rwydd o o amynedd, caredigrwydd, mawr- frydigrwydd, a boneddigeiddrwydd, heb son am lu ereill. Felly, nid yw yn ddigon i ddelio a'r dymher yn unig. Ehaid myned at ffynon y drwg a chyfnewid y natur fewnol, ac yna bydd tymher ddrwg farw o honi ei hun. Pureiddir eneidiau nid trwy dynu y surni allan, ond trwy osod rhywbeth i mewn, a hyny dim llai na Chariad ac Ysbryd Crist. Yebryd Crist yn treiddio trwy ein hys- brydoedd ni a lanha, a felusa, ac a wedd- newidia y cwbl. Nis gall grym ewyllys dy newid; ni wna amser dy newid; ond gall, a gwna Crist, dy lwyr gyfnewid." Bydded ynoch y meddwl yma yr hwn oedd hefyd yn Nghrist Iesu." Nid oes amser gan ral o honom i golli. Cofier fod hwn yn fater o fywyd neu farwolaeth. "Pwy bynag a rwystro un o'r rhai bychain hyn a gredant ynof fi, da fyddai iddo pe crogid maen mehn am ei wddf, a'i foddi yn eigion y mor." öolyga y dyfyniad hyn mai dy- farniad terfynol yr Arglwydd Iesu yw, oì bod yn well neidio byw na pheidio caru. (Efel. Prof. Drummond).