Skip to main content

GENÄD HEHDE). " A Gwaith Cyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. RmF 322.] HYDREP, 1907. [Cyf XXVII. DARLLEN EMYNAU YN GYHOEDDUS. i YHOEDDODD Gee a'i Fab, Dinbych, yn ddiweddar ddarlith- iau yr athrylithgar Hiraethog, mewn cyfrol hylaw, pris haner coron. Cynwysa y gyfrol ei ddarlithiau ar Luther, Gariba'di, Palmerston. a Phantycelyn. Traddododd amryw ddarlithiau ar y diweddaf yn nghyda'i weithiau, a chyhoeddwyd hwynt o'r blaen, ond barnwyd yn ddoeth eu gosod i fewn yn y gyfrol hon. Yn sicr mae'r darlithiau i gyd yn werth eu darllen, ac nis gall neb wneyd hyny heb dderbyn budd mawr. Pan yn myned drwy y rhai ar Bantycelyn, daethom ar draws sylwadau ar ddarllen Emynau y tybiwn y bydd yn fuddiol rhoi y cyhoeddusrwydd mwyaf iddynt. Cynwysant farn un oedd wedi cael cyfleusderau ddigon i weled a gwybod sut y oedd pethau yn bod yn ei ddydd ef. Ofnwn mai ychydig o welliant sydd yn ein dydd ninau. Ar ol dyfynu y ddau benill godidog—" Marchog, Iesu, yn llwyddianus," &c, ac ' O ! llefara, addfwyn Iesu," &c, a gwneyd sylwadau byw ar y gwahaniaeth rhyngddynt mewn ys- bryd ac arddull, &c, ysgrifena :— " Ond Och ! fel y llurgynir ÿ penillion hyn a'u cyffelyb yn fynych drwy y dull bongleraidd, marwaidd, a diarchwaeth o'u gosod allan ! Teimlem ysfa ar ein calon lawer tro i redeg at ambell bregethwr a'i Undagu, a churo ei ben yn erbyn y pared yn dda gyda hyny, oherwydd ei ddull anghelfydd ac afíafar yn dodi y fath benillion allan i'r gynulleidfa i'w canu. Y mae rhai fel pe byddent yn ymwneyd o bwrpas i gymylu a chuddio gogoniant yr emynau o olwg y gynulleidfa, drwy y modd oerllyd a musgrell y traethant hwy. Yr un dôn a'r un dull sydd ganddynt i draddodi pob math ar benill. Dodant y ddau a nodwyd allan yn hollol yn yr un llais ac aceniad, a'r rha: hyny yn eithaf anmhriodol i bob un ohonynt. Ni bu nemawr ddim yn fwy poenus i'n teimladau na