Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

OEIMAE) HEHDIf). " A Gwaith Cyfiawnder fydd Hëddwch."—Esaiah. RHIF 319.] GORPHENHAF, 1907. [Cyf XXVII. "RHODDWCH GY8UR." |HODD \Tdyw cysur. Y mae calon lawen a gwynebpryd llon yn rhy werthfawr i'w prynu yn marchnadoedd y byd. Nid oes cyfnewid am gysur i'r galon alarus a llawenydd i'r meddwl pruddaidd. Dawn ydyw dedwyddwch. Ac y mae yn rhodd y mae pawb mewn gwir angen am ei chael. Nid oes dyn cwbl gysurus. Chwilia pawb am ddedwyddwch, er hyny y mae pawb yn annedwydd. Nid oes calon heb ei gofid, na mynwes heb ei chŵyn, na grudd heb ddeigryn yn disgyn drosti i ysgafnhau y wasgfa sydd yn llethu yr enaid. " Dyn a aned i fiinder." Dyna dystiolaeth ei fynwes ei hun. Pa ddyn nad ŷf o ddyfroedd Mara yn yr anial wlad ? " Pob peth sydd yn llawn blinder : uid dichon dyn ei draethu ; ni chaiff y llygad ddigon o edrych. ac ni ddigonir y glust â chlywed." Y mae yr enaid archolledig ar ochr pob ffordd. Nid oes neb heb ei " nosweithiau blinion." Y mae pob dyn gwirioneddol yn gweled a clrydnabod hyn. Yn ol un o ddynion mwyaf athrylith- gar Cymru, yr oedd Dr. Johnson yn fyw iawn i'r ffaith o anned- wyddwch cyffredinol dyn. Dyma'r modd y gosododd allan y ffaith hon mewn llyfr a ysgrifenodd :—" Yr oedd Tywysog yn Abyssinia yr hwn ymawyddai am ddyfod o hyd i berfíaith dded- wyddwch. Tybiai ei fod i'w gael yn mysg cenedloedd mawrion y byd, ac aeth efe a'i chwaer a theithiwr enwog i geisio am dano. Ymwelasant âg Alexandria a Cairo, ond cafodd eu trigolion mor annedwydd a'i bobl ei hun yn Abyssinia. Ymgymysgodd â dynion ieuainc Cairo, a rhoddodd raff i'w nwydau ; ond nid hapus- rwydd ydoedd hyny. Ar ol y nos a'i gwledd, yr oedd yn anes- mwyth dranoeth. Cymerai y llanciau hyn arnynt fod yn dded- wydd, ond yr oeddynt yn ofidus. Cafodd ei fod yn diraddio ei