Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GENÄD HEIDE). " A Gwaith Cyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif 312.] RHAGFYR, 1906. [Cyf XXVI. H Y D Y M A . MAE y flwyddyn hon eto yn marw. Ar ol bod ar ei chylch- dro, yn cyflawni ei chenadaeth ddysglaer yn mysg blynydd- oedd amser, y mae yn prudd a phrysur ddychwelyd i geisio ei chofíin wrth ochr ei chryd. Symuda yn llesg a gwelw i mewn i ystafell oer Rhagfyr, i drengu ynddi, fel ei myrdd blaenoriaid—y blwyddi hawddgar gynt a fu. Ychydig wythnosau eto, a bydd ei hoedl wedi ehedeg ; ychydig guriadau, a bydd ei chalon gymwynas- gar wedi sefyll ; ychydig anadliadau byr a chaeth eto, a newidia ei gwedd, a danfonir hi i fro tywyllwch. C3Tnar y süwyd swyn ei chryd i ebargofiant ; buan yr ymadawodd mwynder gwanwyn ei mebyd ; peidiodd ei chân gan swn prysurdeb canolddydd haf ; daeth drycin henaint â chur a chŵyn i'w chyfansoddiad, ac y mae yn awr, yn wasgedig a threuliedig, yn crymu i'r bedd. Yn fuan bydd ei boreu olaf wedi gwawrio, ei dydd olaf wedi nosi, a hithau wedi ei chasglu at ei mamau mud—am byth ! Prudd ydyw y drychfeddwl. I lawer ohonom y mae wedi bod yn flwyddyn hynod garedig. Ymdrwsiodd mewn harddwisg wedi ei gwneyd yn rhyfedd ac ofnadwy. Arlwyodd i ni o oreuon y praidd a brasder y gwenith, a chwareuodd delynau y coed i loni ein mynwesau. Boddodd ni yn nhywyniadau yr haul, a pharodd i ddefnynau gwlith a gwlaw îreiddio ein sychder yn gwbl brydlon. " Hoff flwyddyn ! Cawsom ysbrydiaeth farddonol yn dy ddyddiau, a chysgod a .gorphwysfa felus yn dy nosweithiau hynaws. Dygaist ni yn mreichiau gofal ac anwyldeb angelion—hyd yma." Ac felly yr ydym wedi ein cynal ar ffordd bywyd. Y fîordd ar yr hon y mae myrdd a mwy o fodau dynol, cryf a gwan, hen ac ieuanc, yn lluddedu, a llithro, a chwympo i godi byth mwy tu yma i'r bedd, bob blwyddyn. Y ffordd sydd a'i rhiwiau yn serth, a ninau yn wan i'w dringo ; sydd a'i rhwystrau yn fawr, a ninau yn dueddol i dramgwyddo wrthynt; a'r hon a gylchynir â drygau