Skip to main content

GENÄD HEDD. " A Gwaith Cyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif 311.] TACHWEDD, 1906. [Cyf XXVI. BRENINES Y GRASUSAU. FRENINES uchod ydyw cariad. Felly y galwyd y gras hwn gan Thomas Watson ddau can' mlynedd yn ol. Wrth ddesgrifio ei ragoroldeb, dywedodd y Puritan egwyddorol a'r pregethwr mawr hwnw : " Cariad ydyw brenines y grasusau ; dysgleiria allan y lleill oll. fel yr haul y planedaü llai." Y dystiol- aeth hon sydd wir. Y mae yn wirionedd datguddiedig, ac yn un hawdd i'r natur ddynol ei greclu. Y mae cyneddf cariad yn perthyn i ddyn fel dyn, yr un modd ag y mae perarogl yn rhan o natur y blodeuyn. A phe buasai dyn wedi bod yn gywir iddo ei hun, pe bnasai wedi ymgadw rhag pechod, ac wedi byw yn ei holl gyneddfau, aethai ei gariad allan at ei gyd-ddynion mor naturiol a'r perarogledd o'r blodeuyn. Ac hyd yn nod yn ei sefyllfa ddarostyngol. teimla dyn f od cariad yn beth rhagorol ; a bod casineb yn beth i'w fheiddio a'i osgoi. Y mae cariad yn rhinwedd mor hardd fel nad yw yn anhawdd ei chydnabod fel brenines y grasusau. Y mae ffydd yn " werthfawr " ac uchel ei bri. Trwyddi hi y mae yr enaid yn byw. Hi sydd yn impio yr enaid i Grist i dder- byn maeth bywyd anherfynol oddiwrtho. Pan ddechreuwn gredu y dechreuwn fyw. Er i berl ffydd fod yn fychan, y mae yn dysgleirio yn ogoneddus yn llygad Duw. Y mae yr eurof yn gwerthfawrogi ílwch yr aur ; ac y mae Duw yn gwerthfawrogi y ffydd leiaf, canys y mae yn cymeryd gafael mewn Crist mawr, mewn addewidion mawr, ac mewn byd mawr. Trwy ffydd y canfyddir heirdd drys- orau yr anherfynol fyd, ac y gwasanaethir Duw wrth Ei fodd mewn byd o amser. Boneddiges hardd ydyw y gras o ffydd, ac y mae ei hymdaith i lawr trwy yr oesau yn dra urddasol. Yr un modd gobaith. Y mae y gras hwn yu " dda a " gwynfydedig," canys y mae yn puro ei berchenog, " megys y mae yntau yn bur," ac yn ei gymhwyso i wynfydedigrwydd " y rhai a elwir i swper neithior yr