Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

OEIMAÜ) HEDD. " A Gwaith Cyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif 310.] HYDREF, 1906. [Cyf. XXVI. CYMRÜ'R DIWYGIAD. RDALOEDD ar eu deulin !—Beth yw hyn ? Gobaith oes dilychwin ; Eneidiau'n troi : Duw yn trin Agoriad ealon gwerin. Bed3Tdd Duw fedyddiodd Gymru, Pentecost yr Ysbryd Glan ; Nid oes ardal heb ei hallor, Nid oes allor heb ei thân ; Cwmwl goleu gweddnewidiad A gysgododd dros y wlad— Gwelwyd dyn i Dduw yn blentyn, Gwelwyd Duw i ddyn yn Dad. Clybu cenedl farn a chariad Yn cyniwair trwy ei bro ; Ysodd tân o'r nef Gwm Rhondda, Oedd a'i galon fel y glo ; Mynwy ddu—Gomorra Cymru— Gwyrth o ras ar hono wnaed ; " Cadd gydwybod wedi'i chànu'n Ddysglaer yn y Dwyfol waed." Un yw Cymru'n nghwlwm gweddi, Un, er gwahaniaethau oes ; Gyda'r nef a chyda'i hunan Fe'i cymodwyd wrth y Groes ; Nid oes son am Wyddfa mwyach— Onid ydyw Calfari Wedi myn'd goruwch y bryniau Penaf yn ei golwg hi ?