Skip to main content

" A Gwaith Cyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif 307.] GORPHENHAP, 1906. [Cyf. XXVI. D. DAYIES YSW., A.S., LLANDINAM. NFYNYCH y rhydd dim lawenydd mwy na gweled crefydd yn aros mewn teulu o âch i âch, yn enwedig os bydd hi wedi arfer tori allan mewn ffurfiau manteisiol iawn i gymdeithas. Y mae y boneddwr ieuanc a enwir uchod yn eng- raifft ragorol o hyn. Wyr yw efe i " David Davies, Llandinam " —byddai yn rhyfyg yn mron i ysgrifenu Mr. o'i flaen, nag Ysw. ar ol yr enw—yr hwn a ddaeth mor adnabyddus i Gymru y rhan olaf o'r ganrif ddiweddaf. Drwy ei gysylltiad â glofeydd y Rhondda, gwnaeth efe gyíoeth dirfawr ; . a phrofodd yn wr haelionus tu hwnt i'r rhan fwyaf o gyfoethogion y genedl. Y mae ei gyfoeth wedi disgyn i'w ŵyr ieuanc, ac ymddengys yntau yn benderfynol i ddefnyddio rhan heîaeth ohono i amcanion cyhoeddus. Nid yw eto ond ychydig gydag un-ar-hugain oed, ond y mae wedi dyfod i sylw mawr. Bu ei dadcu yn aelod Seneddol dros Faldwyn am dvmhor, ac yn awr y mae yntau hefyd wedi cyrhaedd St. Stephan. Nid oedd wedi bod yn rhyw gyhoeddus iawn gyda gwleidyddiaeth cyn yr Etholiad Cyffredinol, nac wedi cymeryd ochr yn rhyw bendant iawn. Yr oedd y David Davies cyntaf wedi troi yn ündebwr ; ac ni wyddid yn iawn beth wnelsai ei ŵyr. Yr unig beth a wyddid oedd ei fod yn anghymeradwyo }^r hvn a adnabyddid wrth y " Polisi Cymreig," yn ol pa un yr ymleddid Deddf Addysg 1002. Gobeithiai y Ceidwadwyr ei gael yn ym- geisydd drostynt hwy ; ond y Rhyddfrydwyr a orfu, a da genym hyny. DysgwyHwn fod iddo lawer o rlynyddau 1 wa=anaethu ei genedl fel aelod Seneddol, ac y ceir ef yn mysg pleidẃyr mwyaf seioe pob symudiad dyrchafol yn em mysg. •■ Methodistiaid yw teulu Mr. Davies wedi arfer bod ; ac anhawdd fyddai enwi teulu sydd wedi bod o fwy o gymhorth 1r enwaa \n hyn eto mae'r boneddwr ieuanc yn penderfymi cerdded yn Uwybr ei hynafiaid. Yn ddiweddar, prynodd ar draul fawr lawn hen hotel