Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

" A Gwaith Cyfiawnder fydd HEddwch."—Esaiah. Rhb? 304.] EBRILL, 1906. [Cyf. XXVI. PHEGETHWR ENWAD ARALL. f^^HAID i mi gydnabod ar unwaith fy mod dan anfantais i !§vJ ysgrifenu am y gwr uchod, am nad wyf wedi cael ond -^ >* ychydig iawn o gyfleusdra i ymgydnabyddu âg ef, er fy mod bellach wedi cyrhaedd canol oed, ac wedi gwrando pregethau ar hyd fy oes. Y mae genyf hyn o gysur, fodd bynag, y bydd bron yr oll o'r rhai a ddarllenant yr ysgrif hon yn yr un sefyllfa anwybodus a minau, yn unig am eu bod, fel fìnau, wedi eu magu yn ngwersyll Annibynia. Nid wyf, ychwaith, am awgrymu fod Annibynia yn cadw ei phobl mewn mwy o anwybodaeth nag y gwna enwadau ereill, oblegid pe buaswn yn dygwydd bod yn Fethodist, neu Fedyddiwr, neu Wesleyad, ac yn ysgrifenu yn nghylch y gwr uchod, buaswn yn hollol yn yr un sefyllfa anwybodus. Dichon, yn wir, y buasai fy anwybodaeth yn fwy. Ni fynwn, ychwaith, roi lle i neb dybio fy mod yn y sefyllfa anwybodus yma oblegid esgeulusdod ynof fi fy hun. Ni byddai hyny yn gywir, oblegid yr wyf mor hoff o wrando pregethau a neb pwy bynag, ac yn gwneyd defnydd o bob cyfleusdra a gaf i groesi ffin Bnwad i glywed dynion da. Na, diffyg y gyfundrefn ydyw. Mae ein gweinidog ni wTedi bod yn gwasgu arnom bob amser i beidio esgeuluso ein cydgynulliad, drwy wibio o gwmpas o gapel i gapel, ac yr wyf finau, o barch iddo, wedi bod yn ceisio cadw o fewn terfynau o hyd ; ond y drwg yw, nad yw y gwr y mae ei enw uwchben yr ysgrif hon ddim wedi cael rhoi ei droed ond yn anfynych iawn o fewn ein capel ni. Felly, peidier fy meio i am y sefyllfa hon o anwybodaeth, ond beier y gyfundrefn. Yr wyf, er hyny, wedi cael ychydig o gyfleusderau i wrando y gwr da yr wyf wedi defnyddio ei enw. Mewn ambell Gwrdd Misol, neu Gymanfa, neu Sasiwn, neu " Gwrdd Distrid," rhoddwyd i mi yr hyfrydwch mawr hwnw. Ar ambell ddydd Llun hefyd,.