Skip to main content

CENAD HEDD "A Giuaìth Gyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah,.. _ Rhif. 59.] TACHWEDD, 1885. [Cyf. V. NERTH YR YSBRYD GLAN. Gan y Diweddar W. N. " Eithr chwi a dderbyniwch nerth yr Ysbryd Olan wedi y delo Efe arnoch."—Act i. 8. jID cyntaf yr ysbrydol ond y daearol, ac wedi hyny yrysbrydol; " ac y mae pob daearol a gweledig yn arwain i'r ysbrydol a'r anweledig. Mae y ddaear a'i chyflawnder wedi bod trwy yr oesau yn faes myfyrdod ac ymchwiliad dyn. Nid oes yn weledig ond ei mynyddoedd, a'i dyffrynoedd, a'i moroedd, a'i hafonydd, ei choedydd, a'i hanifeiliaid, ond y mae dull hanfodiad yr oll o'r pethau gweledig yn dibynu ar egwyddorion sefydlog, a pherthynas anweledig. Ac y mae yr holl wrthddrychau gweledig yn y byd fel pe wedi bod yn codi bys ar ddyn trwy yr oesau, ac yn dywedyd, " Sylwch a gwelwch ; dim ond arwyddion allanol galluoedd anweledig ac ysbrydol ydym ni; ewch i mewn heibio i ni i'r cysegr sancteiddiolaf, ac olrheiniwch ein deddfau cuddiedig." À dyma waith athroniaeth yr oesau—tynu plisgyn y daearol ymaith oddiar wrthddrychau natur er mwyn syllu ar y cnewyllyn ysbrydol. Yn ngoruchwyliaethau yr Arglwydd tuag at ddynion fel hyn y mae yn wastadol—y corff anianol yn gyntaf, yna y corff ysbryäol. Dywed yr hen ysgolheigion Iuddewig fod yr enw sydd ar yr Arglwydd yn nglŷn â' gwaith y chwe' diwrnod yn golygu gallu; ac yn cyfeirio yn barhaus at hollalluogrwydd anianyddol; ond fod y gair a ddefnyddir am dano yn nglŷn â gwaith y chweched dydd yn golygu daioni. " Amryw allu l]aw y Duw Hollalluog " oedd yn y greadigaeth ; ond gyda y gwelir dyn yn cael ei ddwyn i'r chwareufwrdd fe " geir golwg ar ei galon." Mae yr Arglwydd yn fwy hoff o'i ymwneyd moesol ac ysbrydol â dyn nag o'i holl ymwneyd anianyddoJ â'r byd. Mae yn canmol y cyfan ; a gwelodd yr Arglwydd y goleuni mai da ydoedd. Pan greodd y ffurfafen, da ydoedd. Dyged y ddaear egin a llysiau, pob ffrwythau yn hadu had-— 21