Skip to main content

CENAD HEDD. "A Owaith Gyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. 49.] IONAWR, 1885. [Cyf. V. Y PWLPUD CYMREIG A'R HEN DERFYMU.* Gan y Parch. J. MORRIS, Pontygof. ?ETH ydyw bod yn iach yn y ffydd ? Dibyna yr ateb ar yr atebwr. Y mae genym y ffydd Rufeinig a'r ffydd Brotestan- aidd. Mae awdurdodau y ffydd Rufeinig yn rhoddi pen ar bob dadl 0 bwys, a'r hwn a feiddio amheu neu wahaniaethu, "bydded anathema," ac yn ofer y dadleuir am gymhwysiad o'r athrawiaeth apos- tolaidd—" Bendithiwch ac na felldithiwch." Yn ol yr Eglwys Diwyg- iedig, ffydd, neu esboniad y diwygwyr, sydd i fod yn safon ein ffydd ninau ; a pha mor ddysgedig, pwyllus, ysbrydol, a gonest bynag y gall dyn fod, oni all berswadio ei hun i roi ei amen wrth holl erthyglau y ffydd hon, rhaid ei alw yn heretic, ac nid brawd, a throi o'r ochr arall heibio iddo, rhag mewn un modd ein halogi gan ei wahanglwyf. " Fy mrodyr, ni ddylai y pethau hyn fod felly." Beth ydyw Cristionogaeth ? Y wedd uchaf ar dduwioldeb ; a golyga hyny y syniadau uchaf am Dduw, a'r tebygolrwydd mwyaf iddo mewn buchedd. Duwioldeb Cristion ydyw ymarweddu fel Iesu Grist. Duwinyddiaeth Cristion ydyw meddwl am Dduw a'i berthynas â dyn fel y meddyliai Crist. Dyma'r oll a allwn yn gyfreithlon ofyn am dano. Credaf íi fod darllen duwin- yddiaeth awduron galluog yn gynorthwy i ni ddeall meddwl yr Arglwydd i'r graddau y niaent wedi gallu sylweddoli prif feddyliau a phrif amcan bywyd yr Arglwydd Iesu. Gall duwinyddiaeth y duwinyddion fod yn fwy 0 rwystr nag 0 gynorthwy i ddeall meddwl yr Arglwydd. Wrth lu mawr ohonynt, ac wrth yr oll i raddau mwy neu lai, y dywed efe, " Nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi." Pren gwybodaeth da a drwg * Y Golygydd yn unig syddyn gyfrifol am y peuawd. uchod. Ymddangosodd yr ysgrif hon yn y Tyst a'r Dydd am Awst 8fed, 1884; ac ar gais Mr. Morris yr ydym yn ei hargraffu fel yr ymddangosodd.