Skip to main content

GENÂD HEIE)E). " A Gwaith Gyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif 287.] • TACHWEDD, 1904. [Cyf. XXV. CADW Y SABBATH. "Fy Sabbathau I a gedwch." JUW biau y Sabbath. Ceidw feddiant arbenig yn Lwn i'w ddybenion goruchel Ei Hun. Caniata i ddynion arfer y chwe' diwrnod i'w hamcanion tymhorol, ond nid y seithfed dydd. " Chwe' diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith ; ond y seithfed dydd yw Sabbath yr Arglwydd dy Dduw: Na wna ynddo ddim gwaitb." "Tydi a gei gasglu manna, a thanwydd, a phobi dy fara, a llwytho dy asynod, a phrynu, a gwerthu, a gweithio; ond nid ar fy Sabbathau I." Nid o'r byd hwn y mae y Sabbath, ac ni ddylid ei ddarostwng i'w wasanaeth. Y mae rhaniadau ereill amser yn seil- iedig ar gyfansoddiad y byd materol; y dydd ar gylchdro y ddaear ar ei hechol, y mis ar gylchdro y Ueuad, a'r flwydd\ n ar gylchdro y ddaear 0 gwmpas i'r haul. Ond nid yw y Sabbath yn cael ei lunio gan dröell olwynion peiriant y greadigaeth faterol. Yr oedd y peiriant hwn wedi ei orphen cyn bod Sabbath Ac nidyr un modd y crewyd y dydd Sabbath a'r dyddiau ereill. Siarad y dyddiau ereill i fodolaeth wnaeth y Creawdwr. ond gorphwys y Sabbath i fodolaeth a wnaeth Efe, Ewyllys Duw greodd y naill, ond angen Ei natur ber- sonol greodd y llall Ac oherwydd hyn y mae i'r dyddiau ereill ddechreu a diwedd, a dywedir am bob un ohonynt: " A'r hwyr a fu, a'r boreu a fu." Ond ni ddywed y Beibl fel hyn am y seithfed dydd. Torodd gwawr y dydd hwn yn llonyddwch natur Duw, a pharha i lewyrchu fwy-fwy hyd ganol 'dydd gorphwysfa y saint yn y nef—"Ac ni bydd nos yno." Tery ei belydrau yn gryfach ar y byd 0 oes i oes. Y mae Sabbath yr wythnos yn yr Hen Destament yn myned yn flwyddyn Sabbathol, ac yna yn ymeangu i Sabbath mawr y Jubili. A'r un modd y Sabbath Cristionogol; dechreua yn nydd Adgyfodiad Crist, ac yna yn mhen yr wythnos ymwêl Crist â'i ddysgyblion