Skip to main content

GENÂD HEDD. " A Owaith Cyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif 284.] AWST, 1904. [Cyf. XXIV. Y WEJNIDOGAETH HON. " Am hyny, gan fod i ni y weinidogaeth hon, megys y cawaom drugaredd, nid ydym yn pallu?— 2 Cor. iv. 1. ÎLYFB, y gwirioneddau mawrion, o bwysigrwydd tragywyddol, ydyw y Beibl. Nid yw y llyfrau a ysgrifena dynion drwy eu nerth meddyliol eu hunain ond yn cynwys gwirioneddau bychaîn, fel twmpathau tywod a wneir gan blant ar draeth y môr, y rhai a chwelir gan dònau y llanw cyntaf a ddaw drostynt; eithr am wirioneddau y Beibl, a ysgrifenwyd dan ysbrydoliaeth, y maent fel Alpau y ddaear, y rhai a ddyrchafant eu penau i'r ardaloedd goruwch cymylau amser. Gall dyn wneyd twmpathau, ond rhaid cael Duw i wneyd mynydd. Mae gwirioneddau y Beibl mor ddifrifol bwysig, fel y mae yn rhaid cael Ysbryd Duw i'n cymhwyso i'w hystyried a'u deall yn briodol. Heb hyny, ni fyddant i ni ond fel esgyrn sychion yn llanw dyffryn ; gallwn eu dwyn at eu gilydd, ac i'w lle, asgwrn at ei asgwrn, gan gyd- ymgymalu, a'u gwisgo â chnawd, ac â giau, ac â chroen, ond ni fydd bywyd yn y dyffrynaid heb anadl oddiwrth y pedwar gwynt, yr Ysbryd a'u rhoddodd, i'w bywhau mewn atebiad i weddi gyffelyb i eiddo y Salmydd, " Datguddia fy llygaid, fel y gwelwyf bethau rhyfedd allan o'th gyfraith Di." Gwirionedd mawr y Beibl ydyw yr un am weinyddiaeth Duw at ddynion yn y byd hwn er eu gwaredu rhag canlyniadau eu pechod. Ycbydig le rydd y Beibli adrodd hanes y ffaith ogoneddus o greadigaeth y byd—dim ond un benod fèr ar ddechren Genesis; ond llenwir y gweddill oll ohono âg athrawiaeth a gweithrediadau trefn gwaredigaeth foesol Duw tuag at ddynoliaeth.