Skip to main content

GEMÄD FIEIIDID. " A Gwaith Cyfiaiwnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif 282.] MEHEFIN, 1904. [Cyf. XXIV. CANMLWYDDIANT EBENEZER, ABERTAWE. SABBATH a'r Llun, Mai 8fed a'r 9fed, dathlwyd Canmlwydd- iant yr eglwys enwog uchod, a da y gwnaed i gymeryd sylw o'r amgylchiad. Cydlawenhawn â hwynt, a llon- gyfarchwn y gweinidog gweithgar, y Parch. W. James, a'i gydswydd- ogion ar eu ilwyddiant amlwg. Faint o ddygwyddiadau raid ddarllen i fewn i hanes eglwys o fath hon yn ystod can' mlynedd ? Faint o anhawsderau sydd wedi eu trechu ? Faint o bersonau a gyfranasant o'u talentau a'u hamser i gynorthwyo ? Faint o dduwiolion a gymhwyswyd i arall fyd ? Pwy u ŵyr ? Penod bwysig yn hanes gwlad, heb son am ardal, yw treigl eglwys o fath hon am gan' mlynedd. Y mae amryw o bethau yn hanes yr eglwys hon y mae yn eithaf priodol defnyddio yr amgylchiad yma i alw sylw atynt. 1. Y maewedi bod yn enwog am ei Hysbryd Cenadol.—Nid yw wedi bod yn euog o fyw iddi ei hun, eithr y mae wedi llafurio ac aberthu yn helaeth i eangu terfynau Teyrnas Crist. Hi gychwynodd fwy na haner dwin o'r eglwysi llewyrchus sydd yn y dref a'r cylch. Ychydig neu ddim sydd gan ambell eglwys i ddangos ar ol can' mlynedd o fywyd ; ond nis gellir dyweyd hyny am Ebenezer. Bwriodd allan gangenau o dro i dro, a gwnaeth lawer tuag at eu cryfhau. Nid gyda Chenadaeth Gartrefol yn unig y mae wedi bod yn hael ei hysbryd, ond gyda'r Genadaeth Dramor yr un fath. Dan ei nawdd hi, yn y fìwyddyn 1814, y cynaliwyd y cwrdd cyntaf yn Nghymru i bleidio Cymdeithas Genadol Llundain, a chyfarfodydd i'w hir gofîo oeddynt. Casglwyd ynddynt dros £500. Y mae yr un ysbryd Cenadol wedi parhau yn yr eglwys ar hyd y blynyddoedd ; ac y mae yn awr yn un o'r ychydig eglwysi yn y Dywysogaeth sydd yn cyfranu swm fawr at y Gymdeithas hono. 2. Ymaewedi bod yn llygadog i wylioW Aimerau, ac i ddarpáru ar eu cyfer.—C&fodd fyw ar hyd y ganrif ryfeddaf ei gwaith crefyddoi