Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

" A Gwaith Cyflawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif 298.1 HYDREF, 1905. |"Cyf. XXV. Y PARCH. BENJAMIN JONES, PWLLHELL Y CYFRWNG DDEFNYDDIODD. DUW I ARGYHOEDDI ANN GRIFFITHS. |N ein rhifyn diweddaf, rhoddasom fyr-hanes o Ann Griffiths, yr Emynyddes, a diau y bydd yn dda gan ein darllenwyr wybod rhywbeth am y gweinidog da ddefnyddiodd yr Ysbryd Gìan yn gyfrwng i'w dychwelyd at y Gwaredwr. Y cyfrwng hwnw oedd y gwr enwog y mae ei enw uchod. Gweinidog perthynol i'r Annibynwyr ydoedd, a dreuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd yn gwasanaethu Duw yn nglŷn â hen eglwys enwog Penlan, Pwllheli. Ar ymweliad âg eglwys Pendref, Llanfyllin, yr oedd pan gafodd Ann Griffiths y fraint o'i wrando, wedi myned yno i gynal cyfarfod pregethu y Pasg. Glynodd ei eiriau yn ei chydwybod, a bu yr oedfa yn drobwynt yn ei hanes, ac yn gychwyniad bywyd newydd. Gallasai ddyweyd am y tro hwnw, fel y dywedai y Perganiedydd o Bantycelyn am y tro y clywodd yntau yr enwog Howell Harries yn pregethu gyntaf yn Nhrefecca— " Dyna'r adeg, byth mi gofiaf, Clywais inau lais y nef," &c. Perthynai rhieni Benjamin Jones i blwyf Llanwinio, yn sir Gaer- fyrddin, ac yno, yn amaethdy Trecyrnfawr, y ganwyd ef yn y flwyddyn 1756. Perthynai ei rieni i'r Eglwys Sefydledig, a bwriadent ddwyn y bachgen i fyny i weinidogaeth yr Eglwys hono; ond tra yn yr ysgol yn Llanbedrfelri, daeth dan ddylanwad gweinidogaeth y Parch. R. Morgan, gweinidog Henllan y pryd hwnw, yn nghyda'r Parch. J. Griffiths, Glandwr.