Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

" .4 Owaith Cyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif 297.I MEDI, 1905. fCYF. XXV. €ANMLWYDDIANT ANN GRIFFITHS-YR EMYNYDDES. |WST 12fed, 1805. y claddwyd Ann Griffiths, yn Mynwent Eglwys Plwyf LÌanfihangel-yn-Ngwynfa, yn sir Drefaldwyn ; ac Awst lleg, 1905, dathlwyd y Canmlwyddiant drwy gynaí cyfarfodydd neillduol yn Llanfyllin, yn mha rai yr unai yr holl gyfun- debau crefyddol. Y mae cyfnewidiad mawr wedi dyfod dros ein gwlad a'n cenedl yn ystod y can' mlynedd. Y pryd hwnw yr oedd addoldai ac ysgoldai yn orin, arferion llygredig yn herio y goleuni oedd yn araf ymdaenu, yr Ysgol Sabbathol heb ond newydd gychwyn ar ei gwaith, llyfrau yn anaml, a chyfleusderau teithio yn yehydig. Erbyn hyn, y mae yr oll wedi newid. Mae y deffroad a gynyrchwyd gan Ymneillduaeth, yn enwedig gan y prif ddiwygwyr, wedi dwyn ei ffrwyth yn grefyddol, gwleidyddol, addysgol, a chymdeithasol, fel y mae ein cenedl y fwyaf cyffredinol grefyddol y gwyddis am dani. Ac yn y cyfnewidiad yna y mae yr emynyddes enwog wedi cymeryd ei rhan, er yn gorwedd yn ei thawel fedd yn mynwent wledig Llanfihangel. G-anwyd hi pan yr oedd chwarter diweddaf y ddeunawfed ganrif ar gychwyn—yn 1776. Enwau ei rhieni oeddynt John a Jane Thomas, a phreswylient mewn amaethdy o'r enw Dolwar Fach, yn mhlwyf Llanfihangel-yn-Ngwynfa. Dywedir fod peth o'r ddawn farddonol yn ei thad, ac yr oedd hi o'r dechreu yn eithriad yn mysg y plant. Cafodd ychydig 0 fanteision addysg, fel y gallai ddarllen ac ysgrifenu yn bur rwydd—peth pur eithriadol i fenywod yn y cyfnod hwnw. Y mae yn Llyfrgell Aberystwyth un o'i llythyrau; a dengys hwnw y medrai ysgrifenu yn bur dda, os nad yn hollol gywir. Nwyfus a chwareus oédd hi yn nhymhor ei hieuenctyd, ac yn flaenllaw gydag arferion difyr y cyfnod. Ni wyddai ddim am y difrifoldeb a ddaeth