Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GENÄD HEDn " A Owaith Cyfiaionder fyâd Heddwch."—Esaiah. Rhif 294-] MEHEFÎN, 1905. |"Cyf. XXV. LLWYBRAÜ GWASANAETH. |N o'r pethau amlycaf a ddysgir yn y Beibl yw, fod dyn i fyw i arall yn gystal ag iddo ei hun. Dyna wers amlycaf bywyd y Gwaredwr, a dyna yn unig sydd yn gyson â'i ddysgeidiaeth eglur : "Os myn neb ddyfod ar Fy ol I, ymwaded âg ef ei hun, cyf- oded ei groes, a chanlyned Fi." Deallodd yr apostolion, ac ereill x> ddilynwyr cyntaf y Gwaredwr, y geiriau yn eu hystyr lawnaf, a gweithredasant yn unol â hyny. Ai nid oes lle i ofni ein bod wedi cynefino cymaint â gweled ystyr y geiriau yn cael ei anwybyddu gan Gristionogion proffesedig, fel y mae eu hapêl atom wedi colli llawer o'i nerth? Pe deuai un ohonom wyneb yn wyneb â hwynt am y tro cyntaf, a phenderfynu gweithredu yn eu hol, heb gymeryd i ystyriaeth ymddygiad neb arall, diau yr achosent chwyldroad llwyr yn hanes ei fywyd. Torent i lawr i'r dyfnder, gan ddylanwadu ar nerthoedd cryfaf bywyd. Yr oedd i'r gair " gwasanaeth " le helaeth yn nysgeidiaeth Crist, ac nid cywilyddus ganddo addef Ei fod yn mysg dynion fel "Un yn gwasanaethu." Ac yn hyny, y mae yn ddyledswydd arnom Ei efelychu. Gwnawn hyny, dim ond i ni gael ein Uenwi â'r awydd i lesoli ereill, a gymhellid mor fynych gan Grist a'i apostolion. 1. T mae Llwybrau Gwasanaeth yn dra lluosog.—Ehydd hynjr gyfleusdra i bawb eu cerdded: oblegid os na all un roi gwasanaeth mewn un fFordd, gall mewn ffordd arall. Mae dulliau ar wasanaeth na all neb ond yr athrylithgar a'r dysgedig eu cyfiawni; y mae ereill na all neb ond y cyfoethog eu rhoi; ond y mae hefyd ffurfiau ereill y gall y symlaf ei alluoedd a'r cyfyngaf ei adnoddau eu defnyddio. Cymẁynas mewn cystudd neu adfyd*—" cwpanaid o ddwfr oer i ddysgybl yn enw dysgybl"—y mae hyny yn wir wasanaeth, ac y mae