Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

©EtfSAE) HEDD. k< A Owaith Gyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif 289.] IONAWR, 1905. [Cyf. XXV. A GAIFF Y FLWYDDYN HOiN FOD YR OREU ETO? îR ydym wedi dyfod at ddechren blwyddyn arall eto. Mor gyfiym yr aeth y ddiweddaf heibio ! A yw y blynyddoedd yn pasio yn gyflymach pa hynaf yr elom ? A jw prysurdeb yn peri i ni eu gweled yn myned heibio yn gyflymach ì Sut bynag, teimlo yr ydym ni fod y ddiweddaf wedi prysuro heibio. A dyma ni yn awr ar drothwy un arall; a'r cwestiwn ddymuüwn ofyn yw, A gaifF hon fod yr oreu hyd yn hyn o flynyddoedd ein bywyd ? Dymunwn ofyn y cwesfciwn i bawb, ond hoffwn ei wasgu ar y canol oed a'r ieuanc. Mae yn naturiol i'r hen ymesgusodi, am fod galluoedd a chyfieusderau i wasanaeth yn myned yn llai ganddynt hwy, ond nis gall y dosbarthiadau ereill ymesgusodi. Dylent roi ystyriaeth i'r cwestiwn, a'i ateb yn gydwybodol a gonest ? Pahham y Dylai y Flwyddyn Hon fod yr Oreu? 1. Mae hì yn dechreu yn nghanól Gwres a Brwdfrydedd Diwygiad Nerihol.—Buom yn hir ddysgwyl a gofyn am dano, ac o'r diwedd daeth gyda nerth mawr. Y mae llu o'n heglwysi eisoes wedi eu hadfywio yn fawr ganddo, ac wedi cael y fraint o groesawu nifer fawr o ddychweledigion i'w mysg. Mae tyrfa wedi derbyn syniad uwch am fywyd Cristionogol yn ei ragorfreintiau a'i rwymedigaethau nag a feddent o'r blaen, ac eisoes yn byw i Grist yn llwyrach nag y gwnaeth- ant erioed. A lledu yn gyflym y mae'r dylanwad, fel y mae genym yn awr bob rheswm dros gredu y ca Cymru i gyd brofi ei rym cyn hir; a theimlwn yn gryf y dylai blwyddyn yr ydym yn cael y fraint o'i chychwyn yn nghanol dylanwadau fel hyn fod yr oreu i gyd yn ein hanes, Mae yn dra sicr na chafodd y rhan fwyaf 0 lawer ohonom y fraint o'r blaen 0 ddechreu blwyddyn yn nghanol arwyddion mor amlwg a lluosog