Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWEDDAR BARCH. DANIEL JONES, LLANDUDOCH. 15 mawr iddynt yn eu dydd truenus o fìin. Yn naturiol, cylymai hyn y dyn â'r trefolion yn rhwymau cryfìon serch. Am bymtheg mlynedd bu yn arolygydd siriol a gofalus mewn ystyr ysbrydol ar egíwys Bethesda, pan yu ddisymwth yr ymadawodd, ac yr encil- iodd i'r Eglwys Wladwriaethol. Parodd hyn siomedigaeth chwerw, a syndod nid bychan drwy Gymru Anghydffurfiol. Beth barodd iddo gymeryd y cam dyeithr hwn ? Nid diffyg gallu, na gwendid cymeriad—yr achosion anffodus arweiniodd aml un am loches i fynwes Bgfwys sydd heddyw yn addurnedig gan wŷr dysglaer gan alluoedd wedi eu diwyllio yn briodol, a chymeriadau cyrfion. Bu mynediad Mr. Jones yn fantais i'r Bglwys Sefydf- edig, gan na lenwid ei phwlpud yn Nghymru y pryd hwnw gan wr o alluoedd pregethwrol oedd yn amgenach. Dangoswyd parch mawr iddo yn yr Eglwys, a dyrchafwyd ef i fywioliaethau Bglwysig enillfawr. Yn y flwyddyn 1865, dyrchafwyd ef gan yr Arglwydd Ganghellydd i fywioliaeth Lfandudoch, gyda'r. plwyfi cydiol, Iylantood a Monington, ar farwolaeth y Parch. H. J. Vincent— yr hwn oedd yn hanu o deulu Anghydffurfìol arall—ac a ddaliodd y bywioliaethau am ddeugain mlynedd ond un. O ran ei allan ddyn, yr oedcl gwrthrych ein hysgrif yn dàl, gwallt du, yr hwn oedd yn britho pan ddaethom ni gyntaf i'w adwaen, gwynebpryd hytrach yn chwerw, ac yn dwyn arwyddion penderfynol a gwrol. Yr oedd, megys Aaron, yn llefarwr croew, ac ynganai ei eiriau gydag eglurdeb unigol, fel yr oedd ei ddarllen- iad yn unig yn tynu sylw. Ar adegau dyrchai ei lais gyda phereidd- dra, nes difyr-swyno ei wrandawyr. Yn ymarferol, fynychaf, y pregethai, a dywedir fod min ar ei frawddegau pan yn trin dyled- swyddau. Yr oedd yn wr pur ei foes, uchel ei chwaeth, a choeth ei barabl. Ni ferwinid yr un glust gan ei ymadroddion detholedig ef. Br i Mr. Jones fyned i'r Bglwys Gydfîurfiol, myned yno yn unig a wnaeth o ran ei gorff; nid aeth yno erioed o argyhoeddiad egwyddorol, nac o ddedwyddwch personol. Yn adeg ei arosiad yn Blandudoch, mynych y cyfeillachai â'r Hybarch Daniel Davies, Aberteifi. Diwrnod angladd y diweddaf, pan, er garwed yr hin, yr oedd tyrfa wedi ymgynull i hebrwng gweddillion un o arwyr oedranus y pwlpud i fynwent neillduedig y Ferwig, Mr. Daniel Jones oedd un o'r ddáu offeiriad fu yn gweinyddu. Uchel iawn oedd syniad Mr. Jones am dano. Bglurodd hyn yn amlwg y nos Sul cyntaf wedi ei gynhebrwng, trwy bregethu pregeth angladdol iddo yn Bglwys Dlandudoch, pan oedd yr adeilad yn orlawn. Wele " beth newydd dan haul " ! Pregeth angladdol i weinidog Anghyd- ffurfiol yn yr Bglwys Bsgobaethol ! Traddodwyd tair pregeth