Skip to main content

CENAD HEDD. "A Owaith Gyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. 131.] TACHWEDD, 1891. [Cyf. XI. GWELED 1ESÜ YW GWELED DÜW. " Yr hwn sydd ynfy ngweled Isydd yn gweled yr Hwn a'm danfonodd I.' Ioan xii. 45. 'AE Efengyl Ioan yn gwahaniaethu mewn amryw ffyrdd oddi- wrth y tair Efengyl arall. Yn y lleill teyrnas Iesu—teyrnas nefoedd—a gaiff le amlwg iawn ; ond yn Efengyl Ioan, Person Dwyfol Iesu gaiff y lle mwyaf amlwg. Canys ysgrifenwyd hi yn mhell ar ol y tair Efengyl arall, sef tua diwedd y ganrif gyntaf; erbyn hyny yr oedd teyrnas ysbrydol Iesu wedi ei sefydlu yn y byd, " o Jerusalem hyd yn Illyricum," ac o golofnau Hercwlff hyd draethau Cashgur. Ond yr oedd syniadau anghywir am Berson y Gwaredwr yn ymledaenu yn mhlith y Cristionogion ; ac o'r herwydd arweiniwyd y dysgybl anwyl i ysgrifenu ei Efengyl " fel y credoch chwi mai yr Iesu yw y Crist, Mab Duw" Yn y benod hon ceir gweled effaith ddaeargrynol y weithred fwyaf wnaeth yr Iesu, arno Ef ei Hun, ar ei ddysgyblion, ac ar ei elynion. Yr oedd adgyfodiad Lazarus yn wyrth aruthrol; ac ni ellid ei gwadu, na dwyn niwl amheuaeth drosti. Gellid taeru mai deffroi o lewyg wnaeth mab y weddw o Nain a merch Jairus; ond yr oedd adfywiad corff braenedig Lazarus yn ddiymwad. Nid oedd dim gan y gelynion i wneuthur ond cydymgynghreirio " fel y lladdent yr Iesu hefyd." Dywedai eu cynghorwr mwyaf hirben a chyfrwysgall mai " buddiol i un farw dros y genedl." Cyrhaeddodd yr hanes am y wyrth yn y pentref dros wàr mynydd yr Olewydd i glustiau y Groegiaid, sef yr Iuddewon a lefarent yr iaith Roeg, ac a ddaethent i wyl y Pasg, a chynhyrfodd hyny awydd i weled yr Iesu, i'r Hwn y priodolid y wyrth ryfeddol. Effeithiodd awydd y Groegiaid hyn yn rymus ar Iesu nes ei ysbrydoli at y gwaith mawr o aberthu ei Hun i agor ffordd prynedigaeth dyn. " Daeth yr awr." Mae un weithred dda yn cymhwyso dyn i gyflawni gweithred dda arall, fel yr oedd adgyfodi Lazarus yn help i Iesu fyned i Galfaria i adgyfodi tyrfa fawr yn ysbrydol. 21