Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CENAD HEDD. "A Owaith Cyfiawnder Jydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. 129.] MEDI, 1891. [Cyf. XI. Y GORUCHELDER A'R CYSEGR A BRESWYLIAF. (Esa. lvii. 15.) [AE yr adnod gyfoethog hon oll yn un o'r rhai llawnaf ei drych- feddyliau. Ceir saith neu wyth ohonynt o'r cynwysiad mwyaf toreithiog, a phob un a ofynai bregeth faith iawn cyn gwneyd ond cyfiawnder byr â'r gwirioneddau gwahanol. Mewn natur mae yr Arglwydd wedi gwneuthur pethau yn amry wio yn eu gwerth, rhai yn dra chyffredin, ac ereill yn dra ardderchog ; pen y mynydd yn foel a Uwm, ond y ddoí yn llawn a bras; y gareg lwyd ddiwerth, a'r perl mawr yn nghoron Ymherawdwr Rwsia. Yr un fath y gwnaeth yn y Datguddiad Ysbrydoledig. Dododd fwy 0 feddwl mawreddog mewn rhai adnodau nag ereill. Ganys.—Darllenwch yr adnod. Defnyddir hi yn rheswm dros baîmantu—palmantu y ffordd, sef gwneyd hyny yn drwyadl—yn eithafol —o'r gwaelod i'r wyneb—fel yr arwydda dyblu y gair ; rhaid cael ffordd ragorol, canys mae gwŷr mawr i fyned ar hyd-ddi gydag arweinydd breninol—Duw i dywys ei bobl i le diwall. Mae yn ofynol i gael ffordd dda i fyned i'r nef. Fel hyn y dywed y Goruchel.—Tystiolaetha yr Anfeidrol am dano ei Hun, ei fodolaeth a'i briodoliaethau, ei berff'eithrwydd a'i anfeidrol holl-ddigonedd. Dyna yw yr oll sydd genym 0 hysbysrwydd am dano Ef. Ni welodd neb arall Ef; ni chyfarfuwyd âg ef yn holl rodfeydd natur ; ni chlybuwyd Ef; nid oes dyst iddo ond ei Hunan. Fel y mae y cwbl a wnaeth Duw yn ddigon a pherffaith, felly digon yw ei dystiol- aeth am dano ei Hun. Ni fyn pawb dynion dderbyn y dystiolaeth hon, ond camddefnyddiant hi fel y camddefnyddiant roddion ereill Duw, ac y camddefnyddiant eu hunain. Efallai y tybiant y credwn na wyddant fod Duw ; ond yr hyn a gredwn ydyw na fynant wybod. Teulu y Don't care ydynt: mae hwnw yn lluosocach na theulu Don't know. Nid yw y sawl a gamddefnyddiant eu hunain yn gymhwys i farnu gwerth y dystiolaeth am Dduw. Rhaid cael dynion 0 gymeriad da i fod 17