Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CENAD HEDD. "4 Owaith Gyfiawnder Jydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. 126.] MEHEFIN, 1891. [Cyf. XI. MORWYNIG Y LLYS A PHEDR. jRTH ddarllen gweithiau bywgraffyddol, cyfarfyddwn âg unochr- aeth ynddynt; am y rheswm, efallai, na ddylid dywedyd dim ond y da am y meirw. Fe adroddir eu da, ond nid eu drwg ; ceir gweled eu llwyddiant, ond nid eu methiant. Fel y dywedodd un, " Fe wnelai llawer by wgraffiad y tro i angylion neu seraffiaid i'w ddarllen, ond nid ydyw yn gweddu 0 gwbl i saint milwriaethus." Y mae bywgraffyddiaeth y Beibl 0 radd wahanol a rhagorach. Os gallwn ddysgu rhywbeth oddiwrth ddaioni unrhyw gymeriad, yn ddi- amheu fe allwn ddysgu llawer i wers fuddiol oddiwrth ei ddrygioni hefyd. Mae y Beibl yn cyflwyno y ddwy wedd hyn ar gymeriad dyn—y da a'r drwg—fel eu gilydd. Nid yw, fel yr arlunydd hwnw a dynodd ddarlun Cromwell, yn ceisio celu y creithiau, ond yn tynu darlun cywir, diwen- iaith, a didderbynwyneb. Mae yn rhoddi y da sydd i'w adrodd. Yn Hebreaid xi., darllenwn am ddynion da yr hen oesau, dynion enwog am eu ffydd, mor dda oedd- ent! Fe gedwir cyfrinach ar y pryd o'u ffaeleddau, er mwyn gosod pwyslais neillduol ar nod arbenig eu cymeriad, sef eu hymddiriedaeth ddidor yn eu Duw, ymddiriedaeth a fu yn gynhyrfydd i'r gweithredoedd grymusaf ac ardderchocaf a welodd y byd erioed. Dynion oeddent, y rhai, fel y llongau ar y môr, oeddent yn y byd, ond uwchlaw iddo hefyd, uwchlaw iddo mewn gweithred, ac mewn bwriad, ac mewn dysgwyliad ; dynion y rhai nid oedd y byd yn deilwng ohonynt. Ond os yw awdwr Hebreaid xi., er mwyn ei bwnc, yn ymgadw rhag dodi ei fys ar fanau gweinion ein tadau yn y ffydd, ni raid i niond cyrchu yn ol at Genesis, ac at yr Hen Destament yn gyffredinol, i gael gafael ar yr ochr arall i'r tudalen, i weled eu gweithredoedd drwg yn cael eu dwyn allan i lawn gyhoeddusrwydd. Mae Noa yn feddwyn, Lot yn odinebwr, Abraham yn gelwyddog, a Moses yn syrthio i amryfusedd. Os yw y ddiareb G-ymreig yn wir, " Heb ei fai, heb ei eni," yna fe geir yn myw- graffiadau y Beibl ddigon 0 brofion o'i chywirdeb. Ni ŵyr y Beibl ddim am y gwyleidd-dra a'r tynerwch hwnw a arweinia gofiantwyr i dynu 11